Llwodraeth Leol Canllaw Ymgeiswyr
 
WLGA logo
Hafan Llywodraethu Cynghorau Lleol Gwasanaethau Llywodraeth Leol Beth Mae Disgwyl Imi Ei Wneud?   English
Cynrychioli'ch ward a'r cyngor
Atebolrwydd gwleidyddol
Arwain y gymuned a gweithio trwy bartneriaethau
Rolau'r cynghorwyr yn y cyngor
Safonau ymddwyn
Rhaglen gyflwyno
Datblygu personol
Ffynonellau cymorth a gwybodaeth mewnol y cyngor
Ffynonellau cymorth a gwybodaeth o’r tu allan i'r cyngor
Cyngor gwerthfawr i ymgeiswyr 2008
Gwybodaeth Ychwanegol

Welsh Assembly Government Logo

Beth mae disgwyl imi ei wneud? > Cyngor gwerthfawr i ymgeiswyr 2008

Cyngor gwerthfawr i ymgeiswyr 2008

I helpu'r ymgeiswyr i baratoi ar gyfer etholiadau 2008, penderfynon ni hel sylwadau amryw gynghorwyr ledled Cymru am eu profiad o gael eu hethol am y tro cyntaf yn 2004, yn ogystal â'r rhai sy'n cynrychioli eu cymunedau ers blynyddoedd lawer. Rydyn ni wedi gofalu bod aelodau o bob plaid a chylch gwleidyddol wedi'u cynnwys ac mae'r sylwadau wedi'u trefnu yn ôl nifer o bynciau eang.

Gobeithio y bydd y sylwadau yma'n talu rhywfaint o oleuni ar yr hyn y byddai disgwyl ichi ei wneud pe baech chi'n cael eich ethol, ar ôl i holl gyffro ac ansicrwydd yr etholiad ei hun ostegu.

Arwain a chynrychioli'r gymuned
“Un o'r werin oeddech chi ddoe ond rydych chi’n gynghorydd heddiw. Er y bydd llawer o bobl yn eich ffonio i'ch llongyfarch, bydd ambell un yn gofyn, 'Gyda llaw, allech chi ddatrys..?' Yn ôl pob tebyg, fyddwch chi'n gwybod dim byd am yr hyn mae'n sôn amdano ac, felly, ewch at swyddogion y gwasanaethau democrataidd a fydd yn eich helpu trwy drefn ymholi'r cynghorwyr; neu ewch at eich mentor os oes un ar eich cyfer."

“O gael eich ethol am y tro cyntaf, heb unrhyw brofiad o fyd llywodraeth leol, bydd rhaid ichi ddysgu'n gyflym. Cynrychioli pobl eich ward yw'r ystyriaeth gyntaf. Ar ben hynny, mae dyletswydd arnoch chi i gymryd rhan yn y broses benderfynu am drefn a gwaith y cyngor dros y pedair blynedd nesaf.”

“Bydd gan yr etholwyr amrywiaeth helaeth o anghenion. Defnyddiwch y drefn atgyfeirio os oes un yn eich cyngor.”

“Prynwch ddyddiadur a nodi ynddo bob ymholiad a beth wnaethoch chi ynglŷn ag e. Rhowch ateb i'r etholwr cyn gynted ag y bo modd.”

“Mewn ward lle mae nifer o gynghorwyr, rhaid gofalu nad oes cynghorydd arall wedi trafod yr ymholiad yn barod achos y bydd rhai pobl yn cysylltu â phob cynghorydd ac yn dewis yr ateb sydd orau yn eu golwg nhw yn lle'r un mwyaf perthnasol.”

“Peidiwch â dweud wrth neb y byddwch chi'n gwneud rhywbeth yfory neu'r wythnos nesaf oni bai bod gyda chi rywbeth ar bapur i gadarnhau hynny. Ddylech chi byth addo eich bod yn gallu datrys problem.”

“Gwnewch rywbeth bob amser. Bydd pobl yn gwerthfawrogi'ch parodrwydd i wrando arnyn nhw. Gall llythyr o gefnogaeth neu alwad ffôn sy'n dangos diddordeb ym mhroblem rhywun fod yn ddefnyddiol, hefyd.”

“Cofiwch addewidion eich maniffesto. Bydd eich etholwyr yn eu cofio ac yn eich atgoffa amdanyn nhw ar yr adeg leiaf cyfleus – yn gyhoeddus, ar ôl ichi fethu â chyflawni rhywbeth! Allwch chi DDIM datrys pob problem, fodd bynnag. Felly, peidiwch â gofidio os ydych chi wedi methu ar ôl gwneud eich gorau glas.”
“Mae'n hanfodol dod i adnabod eich ward a'i thrigolion.”

“Ceisiwch gyd-dynnu â'r bobl a'u hannog nhw i feddwl drostyn nhw eu hunain a meithrin eu medrau. Rhaid i chithau feithrin eich medrau chi, wrth gwrs.”

“Cadwch gysylltiadau â chylchoedd a mudiadau lleol ac arweinyddion eraill yn y gymuned.”

“Ystyriwch gyhoeddi cylchlythyrau a chynnal cymorthfeydd.”

“Cofiwch eich bod yn cynrychioli'r trigolion i gyd, gan gynnwys y rhai bleidleisiodd yn eich erbyn a'r rhai na phleidleisiodd o gwbl!”

Cyflwyno, mentora a datblygu personol
“Cyn yr etholiad, dylech chi addo rhoi cymaint o'ch amser ag y bo modd yn ystod y ddeufis wedyn i fynd i'r seminarau cyflwyno y bydd y cyngor yn eu trefnu ar gyfer cynghorwyr newydd.”

“Dylech chi fanteisio ar gymorth mentor – cynghorydd profiadol – a dod i adnabod y cynghorwyr eraill cyn gynted ag y bo modd.”

“Byddwch yn barod am gwrs cyflwyno dwys. Efallai y byddwch chi wedi cael llond bol ohono erbyn y diwedd, ond mae'n werth yr ymdrech!”

“Os oes mentoriaid yn eich cyngor, defnyddiwch nhw.”

“Mae TGCh yn rhan fwyfwy pwysig o fyd llywodraeth leol. Bydd o gymorth ichi a'ch cyngor os gallwch chi ei meistroli.”

“Er y bydd popeth yn ymddangos yn gymhleth, bydd y staff a'r cynghorwyr yn fodlon eich helpu ac esbonio pethau. Peidiwch â bod yn swil o ofyn am gymorth, ac ewch i'r sesiynau cyflwyno i gyd.”

“Mae gwybodaeth yn ddefnyddiol iawn ac, i ddysgu'n gyflym, ewch i gynifer o seminarau, cyfarfodydd a sesiynau cyflwyno ag y bo modd.”

“Dylech chi bwyso a mesur eich medrau ar y dechrau, a rhoi gwybod am eich anghenion i arweinydd eich cylch neu gynghorydd profiadol arall.”

Cyfarfodydd, holi ac ateb
“Ewch i bob cyfarfod. Mae rhai'n bwysig ac mae rhai'n gymharol ddibwys; ond rhaid ichi fod yno i ddysgu, cyfrannu a barnu drosoch chi'ch hun. Ar ôl peth amser, gallwch chi ddechrau didoli pa rai sydd fwyaf defnyddiol.”

“Mae'n well bod yn gwrtais na mynd ar lwybr tarw. Gallwch chi amlygu'ch rhuddin wedyn.”

“A chithau'n gynghorydd dibrofiad, gallwch chi edrych ar bethau o'r newydd. Mae'n bwysig holi, a mynnu atebion, ond mae'n bwysig gwneud hynny'n gwrtais ar ôl cynnal ymchwil briodol.”

“Peidiwch â bod yn swil o ofyn cwestiynau ond peidiwch â mynnu'r sylw bob amser. Gallech chi elwa ar gwestiynau pobl eraill.”

“Darllenwch y papurau cyn pob cyfarfod a holi rhywun os nad ydych chi'n siwr am rywbeth. Os ydych chi am roi sylwadau, nodwch y pwnc a'r dudalen am y bydd rhywun yn gofyn at ba dudalen rydych chi'n cyfeirio. Os gwelwch chi gamgymeriad, ewch at y swyddog yn lle achosi cynnwrf.”

“Dylech chi wybod pryd mae'r pwyllgorau'n cwrdd a nodi'r cyfarfodydd y bydd rhaid ichi fynd iddyn nhw yn eich dyddiadur.”

“Bydd eisiau amser cyn cyfarfodydd i ddeall dogfennau am bynciau i'w trafod ynddyn nhw.”

“Codwch ar eich traed a chyfrannu'n synhwyrol mewn cyfarfod cyn gynted ag y bo modd – po fwyaf y gohiriwch chi hynny, mwyaf y byddwch chi'n gyndyn o'i wneud!”

Craffu
“Er bod eisiau gwybodaeth gyffredinol am wasanaethau'r cyngor i gyd arnoch chi, bydd yn well penderfynu ar ba feysydd yr hoffech chi ganolbwyntio a mynd ati i ddysgu'n drylwyr amdanyn nhw. Os nad ydych chi'n gynghorydd gweithredol, gofynnwch i arweinydd y cylch eich penodi i'r pwyllgorau lle gallwch chi gyfrannu'r mwyaf.”

“Edrychwch ar wefan y cyngor i gael gwybod pa bwyllgorau craffu sydd yno a beth maen nhw'n ei wneud fel y gallwch chi benderfynu'n ddoeth pan fydd rhaid ichi ddewis yr un sydd orau gyda chi.”

“Mae byd llywodraeth leol yn gweithio orau pan fo'r cynghorwyr anweithredol yn cloriannu penderfyniadau'r rhai gweithredol ac yn ymwneud â llunio'r polisïau. Mae rôl i bawb, boed yn rhan o'r bwrdd gweithredol neu beidio.”

Cadw'r ddysgl yn wastad
“Ceisiwch fod gyda'ch cymar a'ch teulu am o leiaf un diwrnod bob wythnos; ac anghofiwch eich bod yn gynghorydd ar y diwrnod hwnnw!”

“Prynwch beiriant ateb fydd yn derbyn negeseuon pan foch chi allan ac yn gadael llonydd ichi pan foch chi'n bwyta!”

“Dywedwch wrth eich cymar am BEIDIO â rhuthro at y ffôn (rhag ofn na fydd y sawl sy'n ffonio'n gadael neges) pan fo'r teulu wrthi'n bwyta.”

“I'r rhai ohonoch chi sy'n gweithio a/neu sydd â theulu, bydd digon o alw am eich amser. Mae'n anodd i gyflogwyr, cydweithwyr a pherthnasau ddeall bod swydd cynghorydd yn waith go iawn.”

“Rhaid blaenoriaethu'ch gwaith – bydd angen llawer o ewyllys da gan eich cyflogwyr a'ch cydweithwyr. Prynwch ambell botelaid o win iddyn nhw.”

“Os ydych chi'n cynnal swydd, rhaid dod i gytundeb ynglŷn â faint o amser y byddwch chi'n ei dreulio wrth waith cynghorydd.”

“Dim ond unwaith bob 6 wythnos mae'r cyngor yn cwrdd! Dim sôn am y pwyllgorau craffu, y cyrff allanol, cyrff llywodraethu'r ysgolion, cyfarfodydd y pleidiau gwleidyddol ac ati!”

Cydweithio â'r swyddogion
“Ewch at y swyddogion sy'n gallu'ch llywio trwy gyfundrefn yr awdurdod – gwasanaethau i gynghorwyr, swyddogion craffu, adran y pwyllgorau.”

“Cofiwch fod y staff i gyd yn ymwneud â rhoi gwasanaethau ac maen nhw'n gwerthfawrogi diddordeb y cynghorwyr ynddyn nhw a'u swyddi.”

“Dylech chi drin a thrafod y swyddogion fel yr hoffech chi i bobl eraill eich trin chi. NID gelynion ydyn nhw – maen nhw yma i'ch helpu chi!”

“Penderfynwch pa gyfleusterau sydd ar gael i'ch helpu gyda'ch gwaith yn y ward – ffonau, cyfrifiaduron, llyfrgelloedd, ystafell y cynghorwyr, gwasanaeth derbyn negeseuon, ffeilio, ymchwil – a manteisio ar y cymorth sydd ar gael.”

“Os dewch chi ar draws swyddog sy'n barod ei gymwynas ac yn mynd â'r maen i'r wal, cofiwch ei enw a sut mae cysylltu ag e.”

“Cewch chi well darlun o waith y cyngor trwy siarad â'r gweithwyr cyffredin, yn aml.”

“Ewch ati i ddeall y drefn reoli a'r swyddogion sy'n gallu'ch helpu chi. Gofynnwch i'r cynghorwyr profiadol i’ch cyflwyno i'r swyddogion hynny.”

“Byddwch yn onest am faint rydych chi'n ei wybod – bydd pobl yn fodlon eich helpu.”

“Rhaid meithrin perthynas dda â swyddogion y gwasanaethau democrataidd a staff gweinyddu a swyddfa cynorthwyo'r cynghorwyr.”

“Dylech chi adnabod y swyddogion rydych chi'n cydweithio â nhw yn dda, yn arbennig y rhai dros gynllunio yn eich bro. Gallan nhw roi gwybodaeth werthfawr ichi (megis dangos manylion pwysicaf y cynllun datblygu).”

Swyddfa gartref
“Byddwch chi'n cael adroddiadau, papurau a rhaglenni rif y gwlith a bydd rhaid penderfynu sut byddwch chi'n ymdopi â nhw.”

“Cadwch gornel sylweddol rywle yn eich cartref ar gyfer papurau a ffeiliau (dywedwch wrth eich teulu y byddwch chi'n gwneud hynny). Os oes rhywbeth ar eich desg ers 6 mis, a chithau heb ei ddarllen eto, dodwch e yn y bin – mae'n amlwg nad yw'n bwysig.”

“Gwaith papur. Dim ond yr hyn sy'n hanfodol a chyfoes y dylech chi ei wneud (mae digon ohono a gall fod yn drech na chi cyn pen fawr o dro) achos bod y rhan fwyaf o bethau ar y we neu yn archifau'r cyngor.”

Ac, yn olaf…
“Mwynhewch y gwaith a chwmni'r cynghorwyr eraill. Llongyfarchiadau!”

Diolch i gynghorwyr:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Cyngor Sir Gâr
Dinas a Sir Abertawe
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Gwynedd
Cyngor Sir Fynwy

 

Yn ôl i’r brig

Llwytho ffeil i lawr.
Argraffwch dim ond os gwir angen hynny.
Modd testun arferol Modd testun gwelededd amlwg

 

Gwaith dylunio a pharatoi CeriLovett and Blue Apple ar gyfer WLGA 2008