Beth mae disgwyl imi ei wneud? > Safonau ymddwyn
Bydd gan eich cyngor ei gôd ymddwyn ei hun. At hynny, diffiniodd Pwyllgor dros Safonau Bywyd Cyhoeddus (Pwyllgor Nolan) saith egwyddor bywyd cyhoeddus yn feini prawf ichi:
- Agwedd anhunanol
Dim ond er lles y cyhoedd y dylai'r rhai sydd mewn swyddi cyhoeddus weithredu. Ddylen nhw ddim gweithredu er lles ariannol neu fanteision eraill iddyn nhw eu hunain, eu teuluoedd na'u cyfeillion.
- Uniondeb
Ddylai'r rhai sy mewn swyddi cyhoeddus ddim derbyn arian nac unrhyw beth arall oddi wrth unigolion neu gyrff allanol a allai geisio dylanwadu arnyn nhw wrth gyflawni eu dyletswyddau swyddogol.
- Gwrthrychedd
Wrth gyflawni gwaith swyddogol, gan gynnwys penodi pobl i gyrff cyhoeddus, rhoi cytundebau neu argymell y dylai unigolion gael gwobrau neu fanteision, dylai'r rhai sy mewn swyddi cyhoeddus ddewis yn ôl rhinweddau'r achos.
- Atebolrwydd
Mae'r rhai sy mewn swyddi cyhoeddus yn atebol i'r cyhoedd am yr hyn maen nhw'n ei bennu ac yn ei wneud, a dylen nhw dderbyn y math o archwilio sy'n briodol i'w swyddi.
- Agwedd agored
Dyla pobl mewn swyddi cyhoeddus fod mor agored ag y bo modd ynglŷn â’r hyn maen nhw'n ei bennu ac yn ei wneud. Dylen nhw roi rhesymau dros eu penderfyniadau, a dim ond pan fo'n amlwg y byddai hynny er lles y cyhoedd y dylen nhw gadw gwybodaeth yn gyfrinachol.
- Gonestrwydd
Mae dyletswydd ar bobl sy mewn swyddi cyhoeddus i ddatgan unrhyw fuddiannau preifat ynglŷn â'u dyletswyddau cyhoeddus a chymryd camau i osgoi unrhyw wrthdaro er mwyn diogelu buddiannau’r cyhoedd.
- Arweiniad
Dylai'r rhai sy mewn swyddi cyhoeddus hyrwyddo a chynnal yr egwyddorion yma, gan arwain trwy esiampl.
 |
Yn ôl i’r brig
|
|