Llwodraeth Leol Canllaw Ymgeiswyr
 
WLGA logo
Hafan Llywodraethu Cynghorau Lleol Gwasanaethau Llywodraeth Leol Beth Mae Disgwyl Imi Ei Wneud?   English
Cynrychioli'ch ward a'r cyngor
Atebolrwydd gwleidyddol
Arwain y gymuned a gweithio trwy bartneriaethau
Rolau'r cynghorwyr yn y cyngor
Safonau ymddwyn
Rhaglen gyflwyno
Datblygu personol
Ffynonellau cymorth a gwybodaeth mewnol y cyngor
Ffynonellau cymorth a gwybodaeth o’r tu allan i'r cyngor
Cyngor gwerthfawr i ymgeiswyr 2008
Gwybodaeth Ychwanegol

Welsh Assembly Government Logo

Beth mae disgwyl imi ei wneud? > Rolau'r cynghorwyr yn y cyngor

Rolau'r cynghorwyr yn y cyngor

Mae pob cynghorydd yn aelod o'r cyngor llawn sy'n pennu'r prif bolisïau a'r gyllideb. Bydd hyn a hyn o gynghorwyr yn aelodau o'r cabinet/bwrdd gweithredu a bydd y cynghorwyr eraill yn ymwneud â throsolwg a chraffu, sefydliadau eraill a chyrff allanol. Y cabinet/bwrdd gweithredu sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o benderfyniadau'r cyngor. Mae'r pwyllgorau trosolwg a chraffu'n cadw llygad ar waith y cyngor, yn ymchwilio i faterion lle bo'n briodol ac yn bwrw golwg ar faterion sydd o ddiddordeb i'r gymuned. A chithau'n gynghorydd newydd, byddwch chi'n aelod o bwyllgor o'r fath yn ôl pob tebyg. Mae pwyllgorau rheoleiddio i drin a thrafod swyddogaethau cynllunio a thrwyddedu, hefyd. Mae cynghorwyr yn cael eu penodi i gyrff lleol allanol megis cyrff llywodraethu'r ysgolion a phartneriaethau lleol hefyd, naill ai'n gynrychiolwyr y cyngor neu'n ymddiriedolwyr neu gyfarwyddwyr yn eu rhinwedd eu hunain.

Tu allan i'r cyngor, gallech chi gael eich penodi i bartneriaeth mae'r cyngor yn aelod ohoni, corff llywodraethu ysgol neu bwyllgor/bwrdd mudiad gwirfoddol lleol. Mae'n bwysig i'r cyngor lenwi swyddi o'r fath i gyflawni ei rôl ynghylch arwain y gymuned. Gall rhai o'r swyddi fod yn ymestynnol iawn ac efallai y bydd gofyn ichi feithrin gwybodaeth neu fedrau arbenigol. Byddwch yn barod i gael eich enwebu ar gyfer swyddi o'r fath ond dylech chi wneud yn siwr eich bod yn gwybod am y cyfrifoldebau a'r hyfforddiant perthnasol ym mhob swydd a faint o amser y bydd rhaid neilltuo iddi. Mae cyfrifoldebau cyfreithiol i rai swyddi megis cyfarwyddwr cwmni neu ymddiriedolwr elusen, yn ôl trefn gyfreithiol y corff o dan sylw. Os nad ydych chi'n siwr, gofynnwch am gyngor cyn cytuno i gael eich enwebu.

Mae'n werth cael gwybod yn ddiymdroi am y gweithdrefnau ynglŷn â gwahodd enwebiadau a phenodi cynghorwyr i swyddi o'r fath.

 

Yn ôl i’r brig

Llwytho ffeil i lawr.
Argraffwch dim ond os gwir angen hynny.
Modd testun arferol Modd testun gwelededd amlwg

 

Gwaith dylunio a pharatoi CeriLovett and Blue Apple ar gyfer WLGA 2008