Beth mae disgwyl imi ei wneud? > Cynrychioli'ch ward a'r cyngor
 |
Ar ôl ichi gael eich ethol, byddwch chi'n cynrychioli pawb o’r trigolion, a phob carfan a chwmni yn eich ward, hyd yn oed y rhai na phleidleisiodd drosoch chi. Y gweithgareddau yn y ward - megis cynnal cymorthfeydd ac ateb cwynion neu broblemau - yw'r rhai pwysicaf yn ôl y trigolion. Mewn arolwg o'u barn gan gwmni Mori, dywedodd 75% o’r bobl yr hoffen nhw i'r cynghorwyr drin a thrafod problemau pobl eu wardiau a dywedodd 68% y dylai'r cynghorwyr ymgynghori â'r cyhoedd a chynrychioli eu barn (Uned Gwybodaeth Llywodraeth Leol, 2002). Bydd angen ichi siarad â'r trigolion a chael gwybod am eu hanghenion a'u barn. Fyddwch chi ddim yn gallu bodloni pawb ond rhaid ichi fod yn onest ac yn agored am eich penderfyniadau a gofalu bod y trigolion yn cael dweud eu dweud – chi yw eu llais nhw yn y cyngor. Bydd rhaid ichi allu cyfleu polisïau a safbwynt y cyngor i'r bobl hefyd, gan ofalu eu bod yn deall y rhesymau dros benderfyniadau, er enghraifft. Mae rôl y cynghorydd yn un freintiedig a gwerthfawr ond mae rhaid dangos ymddrodiad iddi ac amlygu amynedd a gwydnwch am y gall fod yn rôl anodd, weithiau.
Adeg llunio hyn o lith, roedd Comisiwn y Cynghorwyr (corff annibynnol sy'n adolygu rôl cynghorwyr lleol Lloegr) yn edrych ar yr hyn sy'n ysgogi pobl i fod yn gynghorwyr a'r hyn sy'n eu rhwystro rhag gwneud hynny. Ei fwriad oedd cyhoeddi adroddiad fis Tachwedd 2007 gan gynnwys argymhellion, o bosibl, am y ffordd mae cynghorwyr yn cynrychioli'r gymuned.
I'ch helpu i gyflawni'ch rôl newydd ac ennill eich plwyf, dylech chi:
- cynnal cymorthfeydd yn aml, gan ofalu eu bod yn hysbys, mewn mannau hygyrch ac ar adegau cyfleus;
- anfon cylchlythyrau ac ymateb bob amser i alwadau ffôn, negeseuon ebost a llythyrau;
- rhwydweithio – dod i adnabod eich bro a'r carfannau a'r asiantaethau sydd ynddi, a bod yn amlwg yno;
- manteisio ar y cyfryngau lleol i gyfleu'ch negeseuon (os ydych chi'n aelod o gylch gwleidyddol, efallai y bydd canllawiau am bwy sy'n cael siarad â'r cyfryngau, fodd bynnag).
Yn ôl i’r brig
|
|