Beth mae disgwyl imi ei wneud? > Atebolrwydd gwleidyddol
Bydd yr hyn mae cynghorwyr yn penderfynu arno ar eu pennau eu hunain ac ar y cyd o ddiddordeb i'r etholwyr. Byddwch chi'n atebol am addewidion eich maniffesto a dylech chi fod yn barod i amddiffyn penderfyniadau'ch cylch gwleidyddol.
Os ydych chi'n aelod o wrthblaid, rhan o'ch rôl fydd archwilio penderfyniadau'r cylch sy'n rheoli'r cyngor a chynnig dewisiadau amgen na'i bolisïau. Yn ôl pob tebyg, bydd eich cylch (os ydych chi'n aelod o un) wedi pennu ei safbwynt ar yr amryw faterion mae'r cyngor yn eu hwynebu yn barod.
Yn ôl i’r brig
|