Beth mae disgwyl imi ei wneud? > Datblygu personol
Mae pob cyngor yn ychwanegu at yr arian mae'n ei fuddsoddi i ddibenion hyfforddi a datblygu'r cynghorwyr. Mae llawer yn ceisio ennill Breinlen Datblygu a Chynorthwyo Cynghorwyr Cymru - sy'n cydnabod arferion da ynglŷn â hyfforddi a chynorthwyo cynghorwyr; neu wedi derbyn y wobr yn barod. Mae amryw gyrsiau datblygu lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ar gael. Bydd eich cyngor yn gallu rhoi rhestr o'i sesiynau hyfforddi mewnol ichi. Bydd tri math o sesiynau fel arfer: meithrin gwybodaeth (e.e. materion ariannol), meithrin medrau (e.e. llywio cyfarfodydd) neu ddatblygu personol (e.e. medrau arwain). Os nad yw cwrs ar gael yn lleol, gofynnwch a fydd yn bosibl teithio i rywle arall yng Nghymru neu'r DG neu gael sesiwn mewnol arbennig os oes cynghorwyr eraill a hoffai'r un hyfforddiant.
Mae llawer o gynghorau'n cynnig cynlluniau datblygu personol i'w cynghorwyr (un o ofynion y Freinlen) i ddiwallu eu hanghenion o ran hyfforddi a'u helpu i feistroli eu rolau. Gofynnwch am gymorth a chyngor ynglŷn â hynny.
Yn ôl i’r brig
|