Beth mae disgwyl imi ei wneud? > Rhaglen gyflwyno
Mae pob cyngor yn cynnal rhaglen gyflwyno ar gyfer gweithwyr newydd ac, yn yr un modd, mae rhaglen ar gyfer cynghorwyr newydd hefyd. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn rhoi ar gael i bob cyngor raglen gyflwyno ac ynddi'r holl wybodaeth y gallai fod ei heisiau ar gynghorwyr newydd. Gofynnwch am gopi o becyn cyflwyno'ch cyngor ac amserlen yr achlysuron cyflwyno a'r sesiynau hyfforddi. Bydd y sesiynau hynny'n cwmpasu pynciau megis swyddogaethau yn y cyngor, trefniadau ariannol byd llywodraeth leol a gweithio yn eich ward. Cewch chi gopi o grynoddisg WLGA, hefyd.
Mae rhai cynghorau'n sefydlu trefniadau ar gyfer cymorth arall hefyd, megis swyddog neilltuol fydd yn eich helpu i gael eich traed tanoch neu gynghorydd profiadol fydd yn fentor personol ichi. Gofynnwch am wasanaethau o'r fath - mae modd cael rhai trwy'r cyrff gwladol (gweler isod) os nad ydyn nhw ar gael yn lleol.
Yn ôl i’r brig
|