Beth mae disgwyl imi ei wneud? > Arwain y gymuned a gweithio trwy bartneriaethau
Mae rôl statudol i'r cynghorau ynglŷn ag arwain y gymuned. Maen nhw'n gyfrifol am bennu delfryd i'r ardal a'i wireddu ar y cyd, a gofalu bod gwasanaethau o'r radd flaenaf ar gael i bawb.
Mae'r rôl yn ymwneud â mwy na gwasanaethau'r cyngor – mae'n ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus yn eich bro a'r ffordd orau o'u rhoi i ateb anghenion a disgwyliadau'r trigolion. Bydd angen ichi feithrin cysylltiadau agos â chyrff allweddol eraill y gymuned megis yr heddlu, y bwrdd iechyd lleol, y mudiadau gwirfoddol a'r byd masnachol er lles y gymuned i gyd. Byddwch yn siwr am yr hyn y ceisir ei gyflawni a sut gall eich partneriaid helpu i wneud hynny.
Dyma hanfod arwain y gymuned yn effeithiol:
- gwrando ar y trigolion a rhoi cyfle iddyn nhw gymryd rhan
- pennu'r delfryd a'r cyfeiriad
- gweithio'n effeithiol mewn partneriaethau
- mynd â'r maen i'r wal
- galluogi'r gymuned
- bod yn atebol i'r gymuned
- defnyddio adnoddau'r gymuned yn effeithiol
Yn ôl i’r brig
|