Llwodraeth Leol Canllaw Ymgeiswyr
 
WLGA logo
Hafan Llywodraethu Cynghorau Lleol Gwasanaethau Llywodraeth Leol Beth Mae Disgwyl Imi Ei Wneud?   English
Diogelwch yn y Gymuned
Addysg a Dysgu Gydol Oes
Yr Amgylchedd a Chefn Gwlad
Gwella Iechyd
Tai
Hamdden a materion diwylliannol
Cynllunio
Adfywio
Gwasanaethau Rheoleiddio
Gwasanaethau Cymdeithasol
Datblygu Cynaladwy
Trafnidiaeth a Phriffyrdd
Rheoli Gwastraff

Welsh Assembly Government Logo

Gwasanaethau llywodraeth leol > Rheoli Gwastraff

Rheoli Gwastraff

Vale of Glamorgan Council Bin bag © 2007

Dyma un o wasanaethau amlycaf y fro – gwacáu biniau sbwriel a chasglu pethau i'w hailgylchu oddi ar ymyl y pafin a mannau eraill. Yn wyneb pwysau cynyddol i gymryd camau i ddiogelu'r amgylchedd, yn arbennig lleddfu effaith gwastraff ar y newid yn yr hinsawdd, mae'r cynghorau'n mynd ati i gwtogi ar wastraff. Mae pob cyngor yn gyfrifol am:

strategaethau a pholisïau rheoli gwastraff

gweithgareddau ailgylchu a chompostio

safleoedd amwynderau dinesig/canolfannau ailgylchu gwastraff cartrefi

safleoedd gadael pethau i'w hailgylchu

glanhau'r strydoedd

casglu sbwriel, pethau i'w hailgylchu a gweddillion bwyd o dai, siopau a ffatrïoedd

sbwriel wedi'i ddadlwytho'n anghyfreithlon

baw cŵn

rhaglenni hysbysu ac addysgu ynghylch gwastraff

Mae cartrefi Cymru yn gadael tua 1.8 miliwn o dunelli i'w casglu bob blwyddyn. Cafodd 27.6% o'r rheiny eu hailgylchu yn 2006-07 ond mae 1.2 miliwn yn cael eu claddu o hyd - a rhaid cwtogi ar hynny. Mae Cyfarwyddeb Undeb Ewrop ar Gladdu Gwastraff yn pennu faint o sbwriel rydyn ni'n cael ei gladdu. Y Cynulliad sy'n gofalu bod pawb yn cadw at y gyfarwyddeb ac mae wedi rhoi targedau i bob awdurdod lleol hyd 2020. Mae'r cynghorau'n agored i ddirwy o £200 am bob tunnell sy wedi'i chladdu dros ben hynny.

Mae'r strategaeth wladol, 'Yn Gall gyda Gwastraff', yn destun adolygu ar hyn o bryd ac mae'r Cynulliad wedi dechrau trafodaethau gyda byd llywodraeth leol am dargedau ailgylchu, casglu gweddillion bwyd a chynhyrchu ynni o wastraff. Mae byd llywodraeth leol wedi nodi'r heriau isod:

  • yr angen i gymryd camau i osgoi cynhyrchu gwastraff
  • cynyddu cyfraddau ailgylchu a chompostio'n sylweddol
  • ystyried casglu sbwriel bob yn ail wythnos a chodi tâl am gasglu sbwriel sy'n weddill
  • datblygu rôl i'r syniad o ddefnyddio gwastraff i gynhyrchu ynni
  • cau'r bwlch rhwng yr hyn sy'n angenrheidiol a'r hyn sy'n fforddiadwy

Mae'r rhan fwyaf o gynghorau'n rheoli gwastraff ar y cyd â chynghorau eraill yn ôl gofynion 'Creu'r Cysylltiadau'. Mae cydnabyddiaeth eang nad oes angen 22 o wahanol gyfleusterau trin gwastraff ar Gymru a'i bod yn rhatach cynnal cyfleusterau o'r fath ar y cyd.

Ffeithiau allweddol

  • Mae trefi Cymru yn claddu 1.4 miliwn o dunelli o wastraff bob blwyddyn.
  • Cafodd 27.6% o'r gwastraff hwnnw ei ailgylchu yn 2006/07.
  • Erbyn 2009/10, bydd rhaid ailgylchu neu gompostio o leiaf 40% o wastraff y trefi (gan ailgylchu o leiaf 5%).
  • Mae cynnig i godi'r targed i 52% yn 2012 a 70% yn 2025.

 

Gwybodaeth ychwanegol

Yn Gall gyda Gwastraff – Strategaeth Genedlaethol Gwastraff: Llywodraeth Cynulliad Cymru

Bydded i Lywodraeth Gychwyn
The 6Rs in Waste Management: Tystiolaeth WLGA i'r Cynulliad

Yn ôl i’r brig

Llwytho ffeil i lawr.
Argraffwch dim ond os gwir angen hynny.
Modd testun arferol Modd testun gwelededd amlwg

 

Gwaith dylunio a pharatoi CeriLovett and Blue Apple ar gyfer WLGA 2008