Llwodraeth Leol Canllaw Ymgeiswyr
 
WLGA logo
Hafan Llywodraethu Cynghorau Lleol Gwasanaethau Llywodraeth Leol Beth Mae Disgwyl Imi Ei Wneud?   English
Diogelwch yn y Gymuned
Addysg a Dysgu Gydol Oes
Yr Amgylchedd a Chefn Gwlad
Gwella Iechyd
Tai
Hamdden a materion diwylliannol
Cynllunio
Adfywio
Gwasanaethau Rheoleiddio
Gwasanaethau Cymdeithasol
Datblygu Cynaladwy
Trafnidiaeth a Phriffyrdd
Rheoli Gwastraff

Welsh Assembly Government Logo

Gwasanaethau llywodraeth leol > Trafnidiaeth a Phriffyrdd

Trafnidiaeth a Phriffyrdd

Flintshire-CC © 2007

Mae cludiant wrth galon bywyd Cymru, gan alluogi pobl i gyrraedd gwaith a gwasanaethau. Gwaith cymhleth yw rheoli a chynnal trefn a gwasanaethau cludiant Cymru ac mae sawl corff gwladol, preifat a chymunedol yn ymwneud â hynny. Gwaith y cynghorau yw trefnu, cydlynu a chomisiynu isadeiledd a gwasanaethau cludiant yn ôl y cynlluniau cludiant rhanbarthol mae pedwar cyfungorff cludiant y wlad wrthi'n eu paratoi:

  • SEWTA – Cynghrair Cludiant y De-ddwyrain
  • SWWITCH – Cyfungorff Cludiant Cyfun y De-orllewin
  • TRaCC - Trafnidiaeth Canolbarth Cymru
  • Taith – Cyfungorff Cludiant y Gogledd

Mae statws cydbwyllgorau llywodraeth leol i'r pedwar cyfungorff rhanbarthol. Swyddogion arbenigol a chynghorwyr lleol sy'n eu rheoli, gan gydnabod bod cludiant yn croesi ffiniau a bod angen polisïau cludiant cyfun a chyfannol ym mhob rhan o Gymru.

Mae'r cynghorau'n cyflawni sawl swyddogaeth yn y maes yma, megis:

  • cynllunio ar gyfer ffyrdd
  • cynnal a chadw'r ffyrdd a'r pafinau
  • diogelu'r ffyrdd rhag tywydd y gaeaf
  • rheoli trafnidiaeth
  • cynnal a chadw pontydd ac adeiladau eraill
  • diogelwch y ffyrdd
  • cerdded a beicio
  • bysiau lleol
  • gwaith ar y strydoedd
  • goleuo'r strydoedd
  • ffyrdd lleol
  • cynlluniau parcio cymunedol
  • meysydd parcio

Cyhoeddodd y Cynulliad ei strategaeth dros drafnidiaeth, 'Cysylltu Cymru', yn 2006 i ddibenion ymgynghori. Dyma'r prif bwyntiau sydd ynddi:

  • gwell cyfundrefn ar gyfer trafnidiaeth
  • rhagor o ddefnyddio ar ddulliau teithio iachach a mwy cynaladwy
  • cwtogi ar yr angen i bobl deithio

Nododd y strategaeth yr heriau isod:

  • lleddfu effaith trafnidiaeth ar y newid yn yr hinsawdd – 13.5%1
    ar hyn o bryd
  • gwasanaethau sy'n cael eu canoli fwyfwy a'r problemau sy'n codi yn sgîl hynny o ran cludiant a mynediad
  • rhagor o dagfeydd
  • angen teithio ymhellach

1 Strategaeth yr Amgylchedd 2006

Fis Hydref 2007, cyhoeddodd y Cynulliad nifer o flaenoriaethau fydd yn cyfeirio fersiwn terfynol y strategaeth, sydd i'w chyflwyno yn ystod gaeaf neu wanwyn 2008. Dyma'r blaenoriaethau:

  • gwell cysylltiadau cludo
  • cydnabod bod angen atebion gwahanol ar amryw rannau'r wlad.
  • gwario £350 miliwn ar y cefnffyrdd er cyflymder, mynediad a diogelwch
  • gwella'r ffyrdd a'r rheilffyrdd rhwng y de a'r gogledd
  • gwella cledrffyrdd arfordir y gorllewin a chymoedd y de
  • rhagor o fysiau moethus
  • rhaglen newydd ynghylch ffyrdd diogel i gymunedau
  • sefydlu menter teithio cynaladwy ar gyfer trefi

I roi'r strategaeth ar waith, mae Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu paratoi cynllun fydd yn pennu polisïau a rhaglenni manwl ym maes trafnidiaeth.
Mae'r cynghorau'n wynebu digon o anawsterau, megis buddsoddi yn y ffyrdd fel mae rhestr y gorchwylion cynnal a chadw'n cynyddu, rhoi gwasanaethau cludiant cyhoeddus fforddiadwy – yn arbennig yng nghefn gwlad - a pharatoi cynlluniau a rhaglenni yn wyneb ansicrwydd ynglŷn â pholisïau/amserlenni gwladol.

Ffeithiau allweddol

  • Mae'r awdurdodau lleol yn gyfrifol am ryw 33,000 km o ffyrdd.
  • Mae 70% o'n teithiau'n llai na 5 milltir.
  • Y car yw'r dewis ar gyfer bron 80% o'r teithiau.
  • Cynyddodd nifer y cilomedrau wedi'u teithio o 24% rhwng 1993 a 2003.
  • Mae pobl Cymru yn teithio ryw 950 o weithiau'r flwyddyn ar gyfartaledd, a chynyddodd hyd eu teithiau o 57% rhwng 1980-2003.
  • Mae pawb yng Nghymru yn teithio 10,000 km y flwyddyn ar gyfartaledd.
  • Y car yw'r dewis ar gyfer 70% o'n teithiau personol.
  • Mae nifer y cerbydau'n codi yng Nghymru ond mae nifer y damweiniau'n gostwng - 9,512 yn 2001 o'i gymharu â 11,822 yn 1990.

 

Gwybodaeth ychwanegol

Datganiad i'r Cyfarfod Llawn am Drafnidiaeth, 2ilHydref 2007

Cysylltu Cymru – strategaeth ddrafft y Cynulliad
Fframwaith Trafnidiaeth Cymru: Llywodraeth Cynulliad Cymru

Deddf 'Rheoli Trafnidiaeth': Senedd y DG

 

Yn ôl i’r brig

Llwytho ffeil i lawr.
Argraffwch dim ond os gwir angen hynny.
Modd testun arferol Modd testun gwelededd amlwg

 

Gwaith dylunio a pharatoi CeriLovett and Blue Apple ar gyfer WLGA 2008