Llwodraeth Leol Canllaw Ymgeiswyr
 
WLGA logo
Hafan Llywodraethu Cynghorau Lleol Gwasanaethau Llywodraeth Leol Beth Mae Disgwyl Imi Ei Wneud?   English
Diogelwch yn y Gymuned
Addysg a Dysgu Gydol Oes
Yr Amgylchedd a Chefn Gwlad
Gwella Iechyd
Tai
Hamdden a materion diwylliannol
Cynllunio
Adfywio
Gwasanaethau Rheoleiddio
Gwasanaethau Cymdeithasol
Datblygu Cynaladwy
Trafnidiaeth a Phriffyrdd
Rheoli Gwastraff

Welsh Assembly Government Logo

Gwasanaethau llywodraeth leol > Datblygu Cynaladwy

Datblygu Cynaladwy

Vale of Glamorgan Council © 2007

Mae datblygu cynaladwy yn cyflym ddod yn gyfystyr â gwell penderfyniadau a gwasanaethau gan y cynghorau. Mae wrth wraidd llywodraethu da.
Dyma hanfod datblygu cynaladwy:

  • Rhoi rhagor o bwyslais ar les y bobl ac ansawdd eu bywydau – dod o hyd i ffyrdd cynaladwy o hwyluso ffyniant - a hynny gyda chydraddoldeb.
  • Ystyried effeithiau'r hyn rydyn ni'n ei wneud ar genedlaethau'r dyfodol – golwg tymor hirach yn ôl tystiolaeth wyddonol gadarn.
  • Diogelu a gwella'r amgylchedd – cydnabod ffiniau ecolegol y byd.

Ar flaen y gad
Mae Cymru wrthi'n ateb yr her. Gan fod dyletswydd gyfreithiol unigryw arni i hyrwyddo datblygu cynaladwy ym mhob swyddogaeth, mae Llywodraeth y Cynulliad yn ceisio gwella sefyllfa pob gwasanaeth cyhoeddus. Mae'n asesu pob strategaeth a pholisi yn ôl meini prawf datblygu cynaladwy ac mae pwyllgor craffu yn cadw llygad ar y cynnydd yn y maes yma (mae gwybodaeth ychwanegol isod).

Cyd-destun y polisi

  • Mae gofyn i bob cynllun statudol lleol hwyluso datblygu cynaladwy.
  • Mae Rhaglen Gwella Cymru yn pennu datblygu cynaladwy yn un o nodweddion allweddol gwaith effeithlon.
  • Rhaid i strategaethau cymunedol 'hyrwyddo a gwella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol eu hardaloedd a helpu i hwyluso datblygu cynaladwy yn y DG'.

Rôl yr awdurdodau lleol

  • Mae gofyn i bob cynllun statudol lleol hwyluso datblygu cynaladwy.
  • Mae Rhaglen Gwella Cymru yn pennu datblygu cynaladwy yn un o nodweddion allweddol gwaith effeithlon.
  • Rhaid i strategaethau cymunedol 'hyrwyddo a gwella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol eu hardaloedd a helpu i hwyluso datblygu cynaladwy yn y DG'.

Mae'r awdurdodau lleol yn gyrff mawr a chanddyn nhw asedion cyfalaf sylweddol a gweithlu mawr. Rhaid inni amlygu arweiniad cryf trwy ofalu bod modd cynnal ein gweithrediadau a dyheadau yn fwy canaladwy.

Mae byd llywodraeth leol yn ymwneud â'r gymdeithas, yr economi a'r amgylchedd fel ei gilydd. Mae'i wasanaethau'n effeithio'n uniongyrchol ar y meysydd hynny ac, felly, yr hyn rydyn ni'n ei wneud a'r modd rydyn ni'n ei wneud fydd ein cyfraniad at gymunedau iach a chynaladwy.

Mae datblygu cynaladwy'n mynnu inni reoli peryglon yn fwy effeithiol, gan gydnabod y rhai tymor hir, megis prisiau tanwydd neu lifogydd, a phennu atebion sy'n croesi ffiniau gwasanaethau er mwyn manteisio’n rhagweithredol ar gyfleoedd yn hytrach na dim ond lleddfu peryglon o'r fath.

Ffeithiau a ffigyrau allweddol

  • Daeth adolygiad o'r maes yn 2006 i'r casgliad nad oedd llawer o gynnydd nac amgyffred ynglŷn â materion perthnasol.
  • Yn ôl arolwg gan Gyngor Cenedlaethol y Defnyddwyr, mae 33% o’r bobl o'r farn mai cyfrifoldeb llywodraeth y wlad a'r byd diwydiannol yw diogelu'r amgylchedd. Dywedodd 52% eu bod yn fodlon derbyn peth cyfrifoldeb.
  • Mae amcangyfrif bod sector cyhoeddus Cymru yn gwario £4.5 biliwn y flwyddyn ac, o ddefnyddio'r gwariant hwnnw er lles y cyhoedd a chynnwys amodau cymdeithasol ac amgylcheddol, gallai Cymru a'i chymunedau elwa.
  • Ar hyn o bryd, mae Cymru’n defnyddio adnoddau naturiol fel pe bai tair planed yn hytrach na dim ond un. Mae arferion anghynaladwy yn sbarduno newid yn yr hinsawdd a dirywio amgylcheddol, sy'n annerbyniol o safbwynt ecolegol.
  • Mae cyfiawnder cymdeithasol wrth wraidd datblygu cynaladwy. Gan fod anghydraddoldeb yn cynyddu ym maes iechyd, bellach mae 8 o’r 10 o ardaloedd oedd mwyaf afiach yn y DG yng Nghymru.

Gwybodaeth ychwanegol

Fframwaith Datblygu Cynaladwy WLGA. Canllawiau arloesol am ddatblygu cynaladwy ym myd llywodraeth leol:

‘Dechrau Byw'n Wahanol’ (Llywodraeth Cynulliad Cymru)

Cynllun Gweithredu Datblygu Cynaladwy 2004-2007 (Llywodraeth Cynulliad Cymru)

Porritt, Jonathon (2005). ‘Capitalism as if the World Matters’. Llundain: Sterling, VA: (Earthscan)

Yn ôl i’r brig

Llwytho ffeil i lawr.
Argraffwch dim ond os gwir angen hynny.
Modd testun arferol Modd testun gwelededd amlwg

 

Gwaith dylunio a pharatoi CeriLovett and Blue Apple ar gyfer WLGA 2008