Llwodraeth Leol Canllaw Ymgeiswyr
 
WLGA logo
Hafan Llywodraethu Cynghorau Lleol Gwasanaethau Llywodraeth Leol Beth Mae Disgwyl Imi Ei Wneud?   English
Diogelwch yn y Gymuned
Addysg a Dysgu Gydol Oes
Yr Amgylchedd a Chefn Gwlad
Gwella Iechyd
Tai
Hamdden a materion diwylliannol
Cynllunio
Adfywio
Gwasanaethau Rheoleiddio
Gwasanaethau Cymdeithasol
Datblygu Cynaladwy
Trafnidiaeth a Phriffyrdd
Rheoli Gwastraff

Welsh Assembly Government Logo

Gwasanaethau llywodraeth leol > Gwasanaethau cymdeithasol

Gwasanaethau cymdeithasol

Blaenau-Gwent-CBC © 2007
Trwy gyfuniad o dosturi, hyblygrwydd, dibynadwyedd, medrau a synnwyr digrifwch mae gofalwyr CBS Blaenau Gwent yn helpu pobl i fyw’n annibynnol yn eu milltir sgwâr cyhyd ag y bo modd

Y gwasanaethau cymdeithasol yw’r adran fwyaf ond un ym maes llywodraeth leol Cymru, ac mae’n un o'r swyddogaethau craidd. Mae'r gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu trefnu mewn amryw ffyrdd, megis adran ar wahân mewn awdurdod neu ar y cyd â materion tai neu addysg.

Maen nhw'n rhoi cymorth i dros 125,000 o bobl fregus eu sefyllfa, yn gyfrifol am £1.3 biliwn o arian cyhoeddus ac yn cyflogi dros 70,000 o weithwyr. Yng nghyd-destun gofal cymdeithasol y Deyrnas Gyfunol, mae hi’n bwysig nodi’r gwahaniaeth rhwng y sefyllfa yng Nghymru a’r hyn sy’n gweithredu yn Lloegr. Mae llawer o awdurdodau Lloegr wedi mynd ati i drefnu gwasanaethau cyfun ar gyfer plant - dan arweiniad cyfarwyddwr gwasanaethau i blant, yn unol â’r gofynion statudol - gydag ail gyfarwyddwr ar gyfer eu gwasanaethau i oedolion. Mae Cymru ar, y llaw, arall wedi cadw at y rôl statudol o un cyfarwyddwr ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol - yn gyfrifol dros blant ac oedolion.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynnig amrediad o wasanaethau cymorth i’r cynghorau trwy gyfrwng ei lefarydd gwleidyddol, adran benodol ac Asiantaeth Gwella’r Gwasanaethau Cymdeithasol (SSIA). Gan weithio ar y cyd ag amrediad o gyrff a phartneriaid proffesyddol, mae’n hybu gwelliannau a threfnau cynnal gofal cymdeithasol ar gyfer pobl fregus.

Yn ogystal â hynny, mae Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS), ar y cyd â Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (ADEW) yn llywio’r arweinyddiaeth ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol. Un partner allweddol arall i lywodraeth leol ydy Cyngor Gofal Cymru, y mae iddo ran hanfodol ynglŷn â datblygu a rheoleiddio’r gweithlu.

I roi arweiniad i lywodraeth leol ar lwybr gwelliannau a gweithio ar y cyd, mae 9 o ymrwymiadau wedi’u paratoi; a’r rheiny wedi’u cadarnhau gan WLGA, trwy bartneriaeth ag ADSS Cymru.

Dyma’r 9 ymrwymiad:

  • atebolrwydd ar y cyd ynghylch enw da a pherfformiad pob un o’r adrannau dros wasanaethau cymdeithasol ledled Cymru;
  • defnyddio’r cyfan o’r adnoddau - yn nhermau medrau a gwybodaeth – sydd rhyngddyn nhw i gynnal y cynghorau hynny sy’n cael eu hystyried y rhai â’r anghenion mwyaf o ran gwella safon eu perfformiad;
  • gofalu bod y gwasanaethau’n canolbwyntio ar yr unigolyn a bod anghenion unigolion a theuluoedd wrth graidd prosesau cynllunio, blaenoriaethu a chynnal y gwasanaethau;
  • gweithio ar y cyd i ofalu bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithiol a bod prosesau comisynu’n hyrwyddo gwerth am yr arian, ymateb da a diogelu ansawdd;
  • mireinio trefnau partneriaeth lleol i sicrhau gofal o’r safon orau trwy ddulliau cyfun sy’n addas i’r gwasanaethau maen nhw’n eu cynnig;
  • gweithio i sefydlu cyfundrefn o arferion, cyfleoedd ac amodau safonol ym maes cyflogi na fydd yn ffafrio unrhyw gynghorau unigol nac yn rhwystr iddyn nhw; ond a fydd yn hyrwyddo lles pob cyngor a gweithiwr;
  • sicrhau adnoddau, galluedd, medrau, gwybodaeth a dysg a fydd yn ddigonol ar gyfer cynnig gofal o’r safon orau ac a fydd yn adlewyrchu’r arfer orau ynghyd ag anghenion pobl leol;
  • gwella safon y cymorth arbenigol sydd ar gael yn barod, er mwyn hyrwyddo a chydlynu rhaglen o welliannau a datblygiad a threfnau ymchwil cyfundrefnol;
  • cydweithio adeiladol â rheoleiddwyr ac arolygwyr allanol i hyrwyddo’r arfer orau a chyrraedd y safonau gorau ar gyfer y gwasanaeth.

Un her fawr a fydd yn wynebu gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdodau’r lleol y tymor nesaf fydd gwireddu rhaglen 10 mlynedd Llywodraeth y Cynulliad, ‘Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol’, ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol. Mae hwn wedi’i osod yng nghyd-destun fframwaith polisi, ‘Creu’r Cysylltiadau: Cyflawni ar draws Ffiniau’, sy’n pennu’r cyfeiriad ar gyfer newid gwasanaethau cyhoeddus gyda chydweithio strategol yn tanategu’r cyfan.

Rôl yr awdurdodau lleol
Mae cyfrifoldeb statudol ar awdurdodau lleol ynglŷn â threfnu a chomisiynu gwasanaethau cymdeithasol yn ogystal â dyletswydd i ddiogelu unigolion trwy gyfrwng amryw bartneriaethau. Mae gwasanaethau cymdeithasol yn rhan annatod o rôl pob awdurdod lleol o ran diogelu a helpu pobl fregus eu sefyllfa a hyrwyddo eu lles. Rhydd WLGA gymorth i awdurdodau lleol i gynllunio a chynnal eu gwasanaethau yn effeithiol ac yn effeithlon. Mae WLGA wedi gwneud llawer o waith ar fater bod yn gefn i drefnu rhaglen o welliannau strategol ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol - a hynny wedi’i seilio ar ofynion y ddogfen ‘Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol’ - a chyda chymorth SSIA.

Materion plant
Yn ôl 'Hawliau ar Waith', mae gwasanaethau cymdeithasol i blant yn swyddogaeth gynhenid; a chan fod tua 4,500 o blant o dan ei ofal, helpu plant bregus eu sefyllfa yw un o brif flaenoriaethau byd llywodraeth leol.

Mae llawer o waith da wedi'i wneud ar y cyd â Llywodraeth y Cynulliad a'r GIG i lunio rhaglen gyfannol a fydd yn diwallu anghenion plant. Ymhlith y prif agweddau sy'n cyfeirio polisïau ar hyn o bryd, mae Fframwaith Gwasanaethau Gwladol a strategaeth newydd ar gyfer plant bregus eu sefyllfa. Mae'r awdurdodau lleol, gan weithio ar y cyd, yn datblygu gwasanaethau newydd a fydd yn rhoi anghenion plant wrth wraidd eu trefniadau. Un cynllun Cymru Gyfan sy’n unol â gofynion ‘Creu’r Cysylltiadau’ yw Adnodd Cymorth Comisiynu Cymru ar gyfer Plant (CCSR). Cafodd ei sefydlu o dan nawdd Llywodraeth y Cynulliad i wella trefnau comisiynu gwasanaethau ar gyfer plant sy o dan ofal yr awdurdodau - ac WLGA sy’n rhoi cartref iddo. Prif amcan y cynllun yw cefnogi trefnau llywodraeth leol ar gyfer comisiynu gwasanaethau a rhoi cyfeiriad trwy fanteisio ar fanylion ynghylch amserlenni sydd ar gronfa ddata CCSR - mewn perthynas â bylchau o ran darparwyr, y defnydd o wasanaethau a’r ddarpariaeth ar draws Cymru.

Mae Fframwaith Gwasanaeth Gwladol ar gyfer Plant, Pobl Ifainc a Gwasanaethau Mamolaeth (NSF) a baratôdd Llywodraeth y Cynulliad yn pennu safonau ar gyfer gwella cyflwr iechyd a lles ein plant a’n pobl ifainc ni i gyd; ac mae e’n tanategu’r rhaglen strategol ehangach. Â materion iechyd a gofal cymdeithasol mae’r safonau yma’n ymwneud yn bennaf; ond fe fyddan nhw’n effeithio hefyd ar wasanaethau eraill yr awdurdodau lleol, megis addysg, tai, hamdden a thrafnidiaeth - gan fod y rhain i gyd yn cael cryn ddylanwad ar faterion iechyd a lles plant a phobl ifainc.

Ochr yn ochr â dogfen ‘Bywyd Sefydlog a Dyfodol Disglair’ NSF - y rhoddodd Llywodraeth y Cynulliad ei chefnogaeth iddi yn 2007 - mae’r broses ar gyfer cael cartrefi i blant wedi’i mireinio ac mae swyddi penodol wedi’u sefydlu ym meysydd iechyd ac addysg ynghylch cynnal gwasanaethau i ddiwallu anghenion plant sydd dan ofal yr awdurdodau.

Materion oedolion
Mae tua 60,000 o bobl hŷn yn cael eu hasesu bob blwyddyn yng Nghymru - traean ohonyn nhw dros 85 oed. Amcanion allweddol y gwasanaethau cymdeithasol ynglŷn â’r bobl yma yw diogelu oedolion bregus eu sefyllfa a hybu annibyniaeth a materion cymdeithas gynhwysol - yn arbennig trwy helpu pobl i fyw eu bywydau mor llawn ag y bo modd - a chyhyd ag y bo modd - yn eu cartrefi eu hunain. Felly, mae'r gwasanaethau cymdeithasol yn asesu anghenion pobl, gan reoli eu gofal a threfnu amryw wasanaethau i ddiwallu'r anghenion sydd wedi'u nodi.

Mae'r gwasanaethau cymdeithasol i oedolion yng Nghymru yn datblygu yng nghyd-destun ehangach ymgysylltu â dinasyddion, gan fod disgwyl y bydd gwell safonau a rhagor o gydweithio rhwng y gwasanaethau. Mae'r cyd-destun yma'n atgyfnerthu perthynas gyfnewidiol y rhai sy'n defnyddio gwasanaethau o'r fath - a'u cynhalwyr - ar y naill law, a'r rhai sy'n comisiynu ac yn cynnig y gwasanaethau hynny. Un o'r prif heriau i'r gwasanaethau fydd llunio mathau o wasanaethau sy'n cadw anghenion rhag cynyddu ac yn diwallu'r rhai mwy cymhleth fel bo’r rheiny’n codi.

Pery diogelu oedolion bregus yn eu cymunedau yn rhan o’r ymagwedd gyffredinol ar gyfer yr awdurdodau, ac mae’n cynnwys cynnal gweithlu medrus sy’n destun trefnau rheoleiddio da, canolfannau gofal sy’n cael eu harolygu a’u rheoleiddio a threfnau effeithiol ar gyfer asesu unigolion a rheoli eu trefnau gofal. Ymhlith y camau sydd ar y gweill i ddiogelu ansawdd y gweithlu, mae trefn gynyddol i gofrestru ei aelodau, sefydlu rhestr o’r oedolion bregus dan eu gofal a sefydlu cwrs gradd mewn gwaith cymdeithasol ar gyfer y gweithwyr.

Un maes arall sy’n rhan o wasanaethau i oedolion yw iechyd y meddwl. I roi cymorth ac arweiniad i awdurdodau lleol, paratôdd Llywodraeth y Cynulliad strategaeth ‘Gwasanaethau Iechyd y Meddwl i Oedolion ar gyfer Cymru: ‘Tegwch, Ymalluogi, Effeithiolrwydd, Effeithlonrwydd’ i amlinellu delfryd ar gyfer gwasanaethau iechyd y meddwl ar gyfer y deng mlynedd nesaf. Mae’r strategaeth yma’n pennu cynlluniau i ddiweddaru gwasanaethau iechyd y meddwl yng Nghymru a’u mireinio - fel eu bod nhw mewn sefyllfa i roi’r gofal gorau posibl i bawb sydd ag anhwylderau’r meddwl.

I roi cymorth i ddefnyddwyr a chyda nhw anawsterau dysgu, bydd yr awdurdodau lleol yn dilyn arweiniad ‘Strategaeth Anfantais Feddyliol Cymru Gyfan (Aanableddau Dysgu)’ sy’n pennu bod gan bobl a chyda nhw anableddau dysgu:

  • hawl i fywyd arferol yn eu milltir sgwâr;
  • hawl i gael eu hystyried yn unigolion;
  • hawl i fynnu cymorth ychwanegol ar gyfer cyrraedd eu llawn dwf.

Gwybodaeth ychwanegol

Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol

Gwefan WLGA (Gwasanaethau cymdeithasol a gwella iechyd)

SSIA Gwefan

CCSR Gwefan

Datganiad ar Bolisi ac arfer ar gyfer Oedolion ag Anabledd Dysgu. (Saesneg yn unig)

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion yng Nghymru: Tegwch, Grymuso, Effeithiolrwydd, Effeithlonrwydd 2001

Codi’r Safon: Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol Diwygiedig a Chynllun Gweithredu i Ddarparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Oedolion yng Nghymru, 2005

Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru

Dogfennau ar Bolisïu ar gyfer Plant

Association of Directors of Social Services (ADSS Cymru)

 

Yn ôl i’r brig

Llwytho ffeil i lawr.
Argraffwch dim ond os gwir angen hynny.
Modd testun arferol Modd testun gwelededd amlwg

 

Gwaith dylunio a pharatoi CeriLovett and Blue Apple ar gyfer WLGA 2008