Gwasanaethau llywodraeth leol > Gwasanaethau Rheoleiddio
 |
| Gwasanaethau rheoleiddio: Swyddogion safonau masnach Castell-nedd Port
Talbot gyda nwyddau cyfrifiadur anghyfreithlon gwerth £400,000. |
|
Mae gwasanaethau rheoleiddio'r awdurdodau lleol yn diogelu'r cyhoedd ac yn gofalu bod masnachu teg trwy gadw trefn ar weithgareddau ac adeiladau a chynghori a gorfodi ym meysydd iechyd y cyhoedd a safonau masnach.
O’u cymryd nhw gyda’i gilydd gwasanaethau'r awdurdodau lleol ynghylch safonau masnach a iechyd yr amgylchedd sy’n cyflawni’r orchwyl fwyaf dros Gymru a Lloegr gyda’i gilydd. Maen nhw'n ymwneud â channoedd o ddeddfau a rheoliadau ac ar waith yn y rhan fwyaf o’r sectorau diwydiannol a masnachol. Mae eu rôl yn ehangach o lawer na gorfodi erbyn hyn, fodd bynnag. Mae'r gwasanaethau'n hollbwysig yn eu cymunedau ac yn rhoi cymorth pwysig i gwmnïau lleol. Mae’r gwasanaethau craidd yma i'r cyhoedd yn ymwneud ag ansawdd a safonau byw, gan ofalu bod pob cymuned yn lle diogel i fyw, siopa a chymdeithasu ynddi.
Dyma wasanaethau rheoleiddio pob cyngor:-
- iechyd yr amgylchedd
- safonau masnach
- rheoli llygredd
- difa plâu
- rheoli adeiladu
- gwasanaethau cynghori
- trwyddedu
- diogelwch bwyd
- iechyd a diogelwch
- iechyd anifeiliaid
Nod yr awdurdodau lleol yw diogelu'r cyhoedd trwy orfodi rhagweithredol a chyson a rhoi cyngor i leddfu peryglon iechyd, atal niwsans a chwtogi ar droseddu ac anhrefn.
Cododd her fawr newydd i'r awdurdodau lleol yn sgîl gwahardd smygu ym mhob man cyhoeddus a gweithle. Mae'r rhan fwyaf o bobl wedi cadw at y gwaharddiad yn ystod y cyfnod cynnar o ganlyniad i ymgyrch hysbysu yn y wasg a rhaglen eang o ymweliadau cynghori/gorfodi. Bydd rhaid parhau â'r monitro i ofalu bod y ddeddf newydd yn effeithiol, fodd bynnag.
Daeth her newydd yn 2007 yn sgîl cyflwyno Deddf 'Hapchwarae 2005 sy'n gofyn i'r awdurdodau lleol ysgwyddo cyfrifoldeb am drwyddedau hapchwarae oedd o dan reolaeth llysoedd yr ynadon gynt. Ar y cyd â'r Comisiwn dros Hapchwarae, yr awdurdodau lleol sy'n gyfrifol bellach am roi trwyddedau hapchwarae i ofalu na fydd hapchwarae'n arwain at droseddu ac anhrefn, i ddiogelu plant ac oedolion bregus a gofalu nad yw’r hapchwarae yn annheg.
Mae cyngor am safonau masnach ar gael i bobl chwe diwrnod yr wythnos, bellach, trwy Cyswllt Defnyddwyr, gwifren gymorth mae gwasanaethau safonau masnach yr awdurdodau lleol yn ei chynnal ar y cyd â Swyddfa Masnachu Teg. Bydd gwasanaeth safonau masnach yr awdurdod priodol yn mynd ar ôl unrhyw achos mae angen ei drafod ymhellach. Mae pobl Cymru yn ffonio Cyswllt Defnyddwyr dros 95,000 o weithiau'r flwyddyn.
Mae cydnabyddiaeth eang bod dyledion yn broblem fawr ac, yn ôl canlyniadau ymchwil yn ddiweddar, mae canran y teuluoedd yng Nghymru ac arnyn nhw ddyledion yn uwch na chyfartaledd y DG. Mae benthyca anghyfreithlon, heb ei reoleiddio, yn achosi mwy a mwy o bryder ac mae uned ar gyfer Cymru gyfan ar y gweill i fynd i'r afael â'r broblem. Mae gwaith tebyg mewn rhannau eraill o'r DG wedi arwain at lai o fân droseddu trwy roi trefn ar fenthyca anghyfreithlon. Bydd yr uned yn rhoi cymorth priodol i gymunedau a'u trigolion sydd wedi dioddef o achos gweithgareddau o'r fath ac yn cydweithio ag asiantaethau eraill i roi cyngor a chymorth ariannol.
- does neb yn cael smygu ym mannau cyhoeddus a gweithleoedd Cymru er 2il Ebrill 2007 ac archwiliodd y cynghorau ryw 10,000 o adeiladau yn ystod deufis cyntaf y gwaharddiad
- bu ymweliadau â 24,564 o fwytai ac arlwywyr Cymru yn ystod 2005/06 i arolygu materion diogelwch a bwyd
- mae tua 18,000 o dacsis trwyddedig yng Nghymru
- mae llawer o dir diffaith a difwynedig yng Nghymru ac mae Llywodraeth y Cynulliad wedi rhoi £5 miliwn i'r cynghorau er 2005 fel y gallan nhw fwrw golwg manwl ar dros 100 o safleoedd ynghylch difwyno
- mae Cyswllt Defnyddwyr a'r gwasanaethau safonau masnach yn trafod tua 65,000 o achosion ar ran defnyddwyr a 35,000 o geisiadau am gymorth gan gwmnïau bob blwyddyn
Gwasanaethau Rheoleiddio'r Awdurdodau Lleol: www.lacors.gov.uk
Sefydliad Breiniol Iechyd yr Amgylchedd: www.cieh.org.uk
Safonau Masnach Cymru: www.tradingstandardswales.org.uk
Sefydliad y Safonau Masnach: www.tradingstandards.gov.uk
Cyswllt Defnyddwyr: www.consumerdirect.gov.uk
Yn ôl i’r brig
|