Gwasanaethau llywodraeth leol > Adfywio
Mae gwasanaethau byd llywodraeth leol yn asgwrn cefn cymunedau Cymru am eu bod yn helpu i gynnal lles cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd pob bro a'r fframwaith ar gyfer ffyniant. Mae llawer o waith byd llywodraeth leol yn ymwneud ag adfywio cynaladwy ac adnewyddu.
Mae'r awdurdodau lleol mewn sefyllfa unigryw yn y broses honno am eu bod yn agos at y bobl maen nhw'n eu gwasanaethu, yn ymatebol trwy drefnau democrataidd lleol ac yn arwain y gymuned yn ôl gofynion statudol eglur.
Mae'r awdurdodau lleol yn helpu i ddatblygu economi a hwyluso ffyniant pob bro. Maen nhw'n gwneud hynny ar y cyd â phobl allweddol eraill megis y cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu, y trydydd sector a'r sector preifat. At hynny, maen nhw'n cydweithio â'i gilydd fwyfwy yn rhan o raglenni ardaloedd penodol megis mentrau Blaenau'r Cymoedd a Môn a Menai, mewn trefnau rhanbarthol ac is-ranbarthol ac mewn cyd-destunau ehangach, megis Cynllun Gofodol Cymru.
Cafodd Cymru’n Ennill, Srategaeth Datblygu Economaidd Llywodraeth y Cynulliad, ei gyhoeddi yn 2005. Delfryd Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer Cymru yw “economi ffyniannus sy’n egnïol, yn gynhwysol ac yn gynaladwy, wedi’i seilio ar gwmnïau llwyddiannus ac arloesol ac iddyn nhw bobl fedrus iawn, cryf eu cymhelliant”.
Dyma'r heriau pwysig ledled y wlad:
- codi nifer y rhai sy'n gweithio o 135,000 erbyn 2010
- gostwng canran y rhai nad ydyn nhw'n cyfrannu at yr economi
- cynyddu cynnyrch mewnol crynswth Cymru
- cynyddu medrau'r gweithlu
- cynyddu gwaith ymchwil, datblygu ac arloesi
- adfywio'r bröydd mwyaf difreintiedig trwy fentrau megis rhaglen Cymunedau'n Gyntaf'
- gofalu bod ffyniant economaidd yn ymledu i bob cwr o'r wlad
Blaenoriaethau llywodraeth glymblaid y Cynulliad yn ôl cytundeb Cymru'n Un:
- creu swyddi ledled Cymru – cyflwyno strategaeth farchnad lafur ac iddi'r nod o gynnig gwaith i bawb yn y pen draw
- ysgogi menter a thwf masnachol
- hyrwyddo twristiaeth
- gwella medrau ar gyfer gwaith
- adfywio cymunedau
- helpu cymunedau gwledig
Rhaid ateb yr heriau hynny trwy:
- fframwaith polisïau gwladol
- dull adfywio corfforaethol yn yr awdurdodau lleol a Llywodraeth y Cynulliad fel ei gilydd
- digon o arian ar gyfer adfywio
- gwneud y gorau o raglenni 2007-2013 Cronfeydd Strwythurol Undeb Ewrop ledled Cymru
- osgoi dibynnu ar fenthyciadau ac anelu at ragor o fuddsoddi trwy fanteisio ar y cyfleoedd mae mentrau megis Banc Buddsoddi Ewrop yn eu cynnig
Mae Cymru yn un o rannau tlotaf y Deyrnas Gyfunol ac Undeb Ewrop o hyd o ran cynnyrch mewnol crynswth y pen ac incwm pob teulu.
- 76.6% o bobl Cymru sy'n cyfrannu at yr economi o'i gymharu â 78.8% ledled y DG.
- Gan Gymru mae’r gwerth ychwanegol crynswth isaf yn ôl y pen yn y DG – £13,800.
- Mae'r gorllewin a chymoedd y de ymhlith 5 ardal tlotaf y DG (yr enillion isaf ar ôl tynnu treth) yn ôl meini prawf 5 NUTS 2.
- Bydd tua £3 biliwn ar gael i Gymru rhwng 2007 a 2013 trwy Raglenni Cronfeydd Strwythurol Undeb Ewrop ac arian cyfatebol.
- Mae Rhaglen 'Cymunedau'n Gyntaf' yn helpu 100 o fröydd mwyaf difreintiedig Cymru. Bydd ymgynghori am gam nesaf y rhaglen yn dechrau ddiwedd 2007.
Cymru: Economi yn Ffynnu: Llywodraeth Cynulliad Cymru
Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf: Llywodraeth Cynulliad Cymru
Cynllun Gofodol Cymru: Llywodraeth Cynulliad Cymru
Rhaglen Blaenau’r Cymoedd: Llywodraeth Cynulliad Cymru
Rhaglen Môn a Menai: Llywodraeth Cynulliad Cymru
Yn ôl i’r brig
|