Llwodraeth Leol Canllaw Ymgeiswyr
 
WLGA logo
Hafan Llywodraethu Cynghorau Lleol Gwasanaethau Llywodraeth Leol Beth Mae Disgwyl Imi Ei Wneud?   English
Diogelwch yn y Gymuned
Addysg a Dysgu Gydol Oes
Yr Amgylchedd a Chefn Gwlad
Gwella Iechyd
Tai
Hamdden a materion diwylliannol
Cynllunio
Adfywio
Gwasanaethau Rheoleiddio
Gwasanaethau Cymdeithasol
Datblygu Cynaladwy
Trafnidiaeth a Phriffyrdd
Rheoli Gwastraff

Welsh Assembly Government Logo

Gwasanaethau llywodraeth leol > Cynllunio

Cynllunio

Vale of Glamorgan Council Bin bag © 2007

Mae swyddogaeth bwysig i'r drefn gynllunio ynglŷn â llunio, cadw a datblygu ardaloedd trefol a thirwedd naturiol Cymru. Mae'n hybu ac yn rheoli gwaith adeiladu, yn diogelu'r amgylchedd, yn datblygu byd busnes a'r economi, yn hyrwyddo'r syniad o ailddatblygu neu ailddefnyddio tir diffaith ac adeiladau adfeiliedig, yn cadw'r dreftadaeth bensaernïol ac yn mynnu safonau uchel ym meysydd llunio adeiladau a rheoli'r amgylchedd.

Rôl yr awdurdodau lleol
Mae cyfundrefn ynglŷn â defnyddio tiroedd yn pennu fframwaith ar gyfer y 25 o awdurdodau cynllunio sydd i’w cael yng Nghymru (22 o awdurdodau lleol a 3 o awdurdodau parciau cenedlaethol). Rhaid iddyn nhw i gyd baratoi Cynllun Datblygu Lleol sy’n fframwaith cyfreithiol ar gyfer cadw rheolaeth ar godi adeiladau a phenderfynu ar geisiadau am ganitâd cynllunio yn rhan o hierarchiaeth strategaeth Gymunedol.

  • Mae cyfrifoldeb statudol ar bob cyngor ar faterion:
  • prosesu ceisiadau am ganiatâd cynllunio a phenderfynu arnyn nhw;
  • gwasanaethau ar gyfer rheoli datblygu, gorfodi a rheoli adeiladu;
  • cadw ardaloedd penodedig a'r dreftadaeth bensaernïol;
  • rheoli mwyngloddio;
  • paratoi ac adolygu'r cynllun datblygu lleol;
  • paratoi ac adolygu strategaethau adfywio a chadw.

Cynllunio: Cyflawni dros Gymru yw rhaglen Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer gwella safonau ym maes cynllunio ledled Cymru. Mae'n pennu 5 amcan allweddol i'r drefn gynllunio, sef:

  • bod yn deg ac yn agored;
  • ennill hyder y cyhoedd a byd busnes;
  • hwyluso gwell ansawdd a phrosesau cyflymach;
  • cydblethu â phrosesau a chamau'r cynlluniau eraill;
  • cydymffurfio â meini prawf cyffredinol Llywodraeth y Cynulliad.

Bu mwy a mwy o awydd dros y blynyddoedd diwethaf hyn i ddefnyddio’r drefn gynllunio ar gyfer nodau ehangach polisïau gwladol a lleol. Mae’r ymdrech yma i gyfuno polisïau lleol a gwladol yn un naturiol a synhwyrol mewn sawl ffordd. Mae’n cymhlethu’r drefn gynllunio, fodd bynnag, ac yn cynyddu’r baich ar bob awdurdod cynllunio.

Prif heriau

  • Mynd i'r afael â datblygu cynaladwy a newid yn yr hinsawdd, gan gadw'r ddysgl yn wastad rhwng datblygu'r economi ac ymateb i amgylchiadau cymdeithasol cyfnewidiol.
  • Cyflawni nodau polisïau a rhaglenni, megis codi adeiladau niwtral o ran carbon, er lles pobl leol gan ymgysylltu â phob carfan o'r gymuned.
  • Meithrin cydnabyddiaeth o rôl flaengar cynllunio ynghylch dylanwadu ar ein ffyrdd o weithio, byw a chwarae.
  • Helpu'r awdurdodau lleol a'r parciau cenedlaethol i gyflawni amcanion amrywiaeth helaeth o bolisïau, megis tai fforddiadwy.

Ffeithiau allweddol

  • Cafodd 36,470 o geisiadau am ganiatâd cynllunio eu prosesu yn 2006 (o'i gymharu â 25,688 yn 2001).
  • Mae amryw astudiaethau ymchwil wedi amlygu bod angen rhagor o adnoddau ar y drefn gynllunio. Maen nhw'n dangos nad yw'r ffïoedd yn gwneud iawn am holl gostau penderfynu ar geisiadau o'r fath (un o nodau Llywodraeth y DG ers tro).
  • Yn 2004, dim ond dwy ran o dair o’r costau gafodd eu hadennill trwy ffïoedd.
  • Mae bwriad i godi ffïoedd o ryw 40% ac, o wneud hynny, daw ffïoedd a chostau gwasanaeth rheoli'r datblygu yn nes at ei gilydd.

Gwybodaeth ychwanegol

Cynllunio: Cyflawni dros Gymru (Llywodraeth Cynulliad Cymru)

new.wales.gov.uk/topics/planning/planningstats/

www.lgdu-wales.gov.uk

 

Yn ôl i’r brig

Llwytho ffeil i lawr.
Argraffwch dim ond os gwir angen hynny.
Modd testun arferol Modd testun gwelededd amlwg

 

Gwaith dylunio a pharatoi CeriLovett and Blue Apple ar gyfer WLGA 2008