Llwodraeth Leol Canllaw Ymgeiswyr
 
WLGA logo
Hafan Llywodraethu Cynghorau Lleol Gwasanaethau Llywodraeth Leol Beth Mae Disgwyl Imi Ei Wneud?   English
Diogelwch yn y Gymuned
Addysg a Dysgu Gydol Oes
Yr Amgylchedd a Chefn Gwlad
Gwella Iechyd
Tai
Hamdden a materion diwylliannol
Cynllunio
Adfywio
Gwasanaethau Rheoleiddio
Gwasanaethau Cymdeithasol
Datblygu Cynaladwy
Trafnidiaeth a Phriffyrdd
Rheoli Gwastraff

Welsh Assembly Government Logo

Gwasanaethau llywodraeth leol > Hamdden a materion diwylliannol

Hamdden a materion diwylliannol

Flintshire CC © 2007

Mae rôl hanfodol i'r awdurdodau lleol ynghylch cynnig, cynnal a datblygu cyfleon hamdden a diwylliannol yng Nghymru. Mae gwasanaethau hamdden yn cadw'n cymunedau'n iach, yn hybu ffordd iach o fyw ac yn helpu i ddatblygu chwaraeon. Mae gwasanaethau diwylliannol yn annog pobl i werthfawrogi eu cynhysgaeth, parchu amrywiaeth a meithrin medrau creadigol. Mae'r llyfrgelloedd yn bwysig ynghylch rhoi cyfleoedd i ddarllen a chynnal ymchwil, yn ogystal â helpu i feithrin llythrennedd a medrau sylfaenol yn y gymuned. Mae'r archifau'n cadw cofnodion lleol pwysig ac yn eu rhoi nhw ar gael i'r cyhoedd.

Rôl yr awdurdodau lleol
Mae'r cynghorau'n cynnig amrywiaeth helaeth o gyfleusterau a gwasanaethau hamdden a diwylliannol yn y gymuned, gan gynnwys:

  • cyfleusterau dan do ac awyr agored;
  • meysydd chwarae a chyfleusterau i blant;
  • parciau cyhoeddus a mannau agored;
  • cynlluniau datblygu chwaraeon;
  • canolfannau'r celfyddydau, lleoedd perfformio a theatrau;
  • orielau ac amgueddfeydd;
  • gwasanaethau datblygu'r celfyddydau, cadw gwyliau ac achlysuron diwylliannol;
  • llyfrgelloedd, gwasanaethau gwybodaeth a llyfrgelloedd teithiol;
  • archifau lleol.

Mae pob awdurdod lleol yn gweithio'n wahanol am fod ganddo ei drefn, ei bolisïau, ei feini prawf a'i gynlluniau ei hun. Mae gan y rhan fwyaf o gynghorau adran benodol sy'n bennaf cyfrifol am gynnal ac ariannu gwasanaethau hamdden a diwylliannol.
Hanfod delfryd yr awdurdodau lleol ar gyfer hamdden a materion diwylliannol yw datblygu cyfleoedd i bawb. Felly, mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n cynnig tocynnau mantais i annog pobl i ddefnyddio cyfleusterau a mannau cyfarfod ac yn cydweithio'n agos â'r trydydd sector i ddatblygu'r ddarpariaeth.

A hwythau'n arweinyddion eu cymunedau, mae rôl strategol i'r awdurdodau lleol ynghylch datblygu gwasanaethau hamdden a diwylliannol yn ôl anghenion a dyheadau'r bobl leol, hefyd. I'r perwyl hwnnw, maen nhw'n cydweithio'n agos â Chyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Chwaraeon Cymru ac Adran Ddiwylliannol Llywodraeth y Cynulliad.

Dringo'n Uwch yw delfryd Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer gweithgareddau corfforaethol a chwaraeon dros 20 mlynedd. Mae'n pennu sut mae'n bwriadu codi nifer y rhai sy'n ymwneud â gweithgareddau hamdden a chwaraeon i wella ffordd o fyw a iechyd pobl y wlad.

Pennodd Llywodraeth y Cynulliad ei strategaeth ar gyfer y celfyddydau yn 2002 trwy gyhoeddi ‘Cymru Greadigol’. Gan fod cyfnod y strategaeth ar fin dod i ben, fodd bynnag, mae un newydd ar y gweill. Mae pob cyngor yn cael paratoi ei strategaeth ddiwylliannol ei hun ar gyfer gwasanaethau diwylliannol ei fro ac mae gan sawl cyngor gynllun hamdden neu weithgareddau corfforol i ategu'r strategaeth wladol, hefyd.

Heriau pwysig ledled y wlad:

  • cadw cyfleusterau hamdden a diwylliannol yn ôl safonau uchel;
  • codi nifer y rhai sy'n ymwneud â chwaraeon a gweithgareddau corfforol;
  • cynnal nifer y rhai sy'n defnyddio'r llyfrgelloedd a'u rhoi ar gael i ragor;
  • cynnig cyfleoedd celfyddydol a diwylliannol i bobl o bob oed;
  • cydweithio fesul rhanbarth.

Ffeithiau a ffigyrau

  • Mae 549 o gyfleusterau hamdden o dan berchnogaeth neu reolaeth yr awdurdodau lleol yng Nghymru.
  • Mae dros 300 o lyfrgelloedd ledled Cymru.
  • Gwariodd yr awdurdodau lleol dros £323 miliwn ar wasanaethau hamdden a diwylliannol yn 2005-06.
  • Yn yr arolwg diwethaf o fodlonrwydddd (2006), roedd 76% o bobl yn fodlon ar y llyfrgelloedd a 71% yn fodlon ar y parciau a'r mannau agored – dyma rai o ganlyniadau gorau'r ymchwil.
  • Roedd 80% o'r rhai a ddefnyddiodd gyfleusterau chwaraeon lleol yn 2006 yn fodlon arnyn nhw.
  • I fod yn heini, dylai oedolion ymarfer am hanner awr - a dylai plant ymarfer am awr – bum gwaith yr wythnos.
  • Aeth dros bedwar o bob pump o bobl Cymru i achlysur celfyddydol yn y wlad yma y llynedd.

Gwybodaeth ychwanegol

Dringo’n Uwch

Wales Arts Review

 

Yn ôl i’r brig

Llwytho ffeil i lawr.
Argraffwch dim ond os gwir angen hynny.
Modd testun arferol Modd testun gwelededd amlwg

 

Gwaith dylunio a pharatoi CeriLovett and Blue Apple ar gyfer WLGA 2008