Llwodraeth Leol Canllaw Ymgeiswyr
 
WLGA logo
Hafan Llywodraethu Cynghorau Lleol Gwasanaethau Llywodraeth Leol Beth Mae Disgwyl Imi Ei Wneud?   English
Diogelwch yn y Gymuned
Addysg a Dysgu Gydol Oes
Yr Amgylchedd a Chefn Gwlad
Gwella Iechyd
Tai
Hamdden a materion diwylliannol
Cynllunio
Adfywio
Gwasanaethau Rheoleiddio
Gwasanaethau Cymdeithasol
Datblygu Cynaladwy
Trafnidiaeth a Phriffyrdd
Rheoli Gwastraff

Welsh Assembly Government Logo

Gwasanaethau llywodraeth leol > Tai

Tai

Ceredigion-CC © 2007

Mae tai fforddiadwy o safon dda yn hanfodol i flaenoriaethau byd llywodraeth leol a'r Cynulliad, gan gynnwys iechyd, addysg, gofal cymdeithasol, adfywio a diogelwch yn y gymuned. Felly, mae swyddogaeth strategol yr awdurdodau lleol ym maes tai yn hanfodol ynglŷn â gwella byd pobl ein cymunedau.

Mae marchnadoedd tai, anghenion cymunedau a blaenoriaethau lleol yn amrywio ledled Cymru ond mae'r heriau'n gyffelyb ym mhob bro o ran gwasanaethau tai:
Prinder tai fforddiadwy ar osod ac ar werth.

  • Ansawdd gwael ym mhob sector o'r farchnad dai.
  • Digartrefedd.
  • Anghenion cartrefu pobl fregus eu sefyllfa.
  • Natur gyfnewidiol y boblogaeth ac anghenion cymdeithas sy'n heneiddio.
  • Diogelwch yn y gymuned.
  • Cydlyniad cymdeithasol ac anghydraddoldeb.
  • Newid yn yr hinsawdd.

Rôl yr awdurdodau lleol
A hwythau'n arweinyddion eu bröydd, mae rôl hanfodol i'r awdurdodau lleol ynghylch ateb yr heriau hynny trwy gynnig gwasanaethau'n uniongyrchol a manteisio ar allu partneriaid megis cymdeithasau tai, y sector gwirfoddol, landlordiaid preifat, adeiladwyr a'r sector ariannol. Dros y blynyddoedd diwethaf hyn, mae nifer tai'r cynghorau wedi gostwng yn fawr yn sgîl 'Hawl i Brynu' a'r ffaith bod rhai awdurdodau wedi trosglwyddo eu tai i berchnogion eraill. O ganlyniad, mae rôl byd llywodraeth leol ym maes tai wedi newid yn sylweddol ac mae pwyslais llawer mwy strategol bellach sy'n ymwneud â gweithio ledled y farchnad dai. Dyma orchwylion eang byd llywodraeth leol ynghylch tai erbyn hyn:

Asesu'r farchnad dai yn ei chrynswth, gan gynnwys y sector cyhoeddus a'r sector preifat, a chynllunio ar gyfer anghenion pob rhan o'r gymuned yn y dyfodol.

Cydweithio ag adeiladwyr a chymdeithasau tai i roi tai fforddiadwy ar osod ac ar werth.

Rheoli a chynnal a chadw’r tai mae'r awdurdodau'n berchen arnyn nhw.

Gwella tai'r awdurdodau lleol yn ôl Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2012.

Rhoi tai cymdeithasol i'r rhai mae'r angen mwyaf arnyn nhw trwy gofrestr yr awdurdod ac enwebiadau i'r cymdeithasau tai.

Cynnig gwasanaethau i osgoi a datrys digartrefedd, megis cynghori ar ddewisiadau ynghylch tai a rhoi lletyau dros dro ar gael.

Diwallu anghenion trigfan pobl fregus eu sefyllfa.

Diwallu anghenion pobl hŷn, megis tai lloches, cynlluniau gofal ychwanegol a gwasanaethau teleofal.

Helpu perchnogion tai mae'u hincwm yn fach i atgyweirio a gwella eu cartrefi.

Mynd i'r afael â chyflyrau a rheoli gwael a thai gorlawn yn y sector preifat a thrwyddedu tai ac ynddyn nhw fwy nag un preswylydd.

Addasu tai yn ôl anghenion pobl.

Ailddefnyddio tai gwag.

Adfywio ardaloedd ac adnewyddu tai hŷn.

Mae'n bwysig i'r awdurdodau lleol fabwysiadu dull cyfannol o drin a thrafod materion tai a gofalu bod trefniadau cynllunio ar gyfer eu swyddogaethau yn y maes yn cydblethu fel y gall, er enghraifft, y gwasanaethau cymorth ar gyfer bobl fregus eu sefyllfa osgoi digartrefedd, hefyd.

Dylai materion tai gydblethu â'r fframwaith strategol gorfforaethol, hefyd, gan gynnwys y strategaeth gymunedol, strategaeth iechyd a lles a'r cynllun datblygu lleol i ofalu bod cymunedau'n well eu byd o ganlyniad i'r posibiliadau ym maes tai.

Ffeithiau allweddol

  • Mae traean o dai Cymru wedi eu codi er cyn 1919.
  • Roedd canran y tai anaddas yng Nghymru wedi gostwng i 4% erbyn 2007 o'i chymharu â rhyw 20% ym 1986.
  • Mae 16% o gartrefi Cymru yn dai cymdeithasol (awdurdodau lleol a chymdeithasau tai), mae 11% yn perthyn i landlordiaid preifat ac mae 73% yn eiddo i'r rhai sy'n byw ynddyn nhw.
  • Am bob £1 sy wedi'i gwario ar wasanaethau cynorthwyo pobl, mae'r sector cyhoeddus yn arbed £1.68.

Gwybodaeth ychwanegol

Datganiad WLGA o'i Pholisi ynghylch Tai (WLGA, Gorffennaf 2007)

Strategaeth Gwell Cartrefi i Bobl Cymru (Llywodraeth Cynulliad Cymru)

Strategaeth Digartrefedd Cymru 2006-08 (Llywodraeth Cynulliad Cymru)

Canllawiau am strategaethau tai lleol (Llywodraeth Cynulliad Cymru)

Pecyn Cymorth Tai Fforddiadwy 2006 (Llywodraeth Cynulliad Cymru)

Costau a manteision Rhaglen Cefnogi Pobl 2006 (Llywodraeth Cynulliad Cymru)

Llawlyfr Digartrefedd i Gynghorwyr

 

Yn ôl i’r brig

Llwytho ffeil i lawr.
Argraffwch dim ond os gwir angen hynny.
Modd testun arferol Modd testun gwelededd amlwg

 

Gwaith dylunio a pharatoi CeriLovett and Blue Apple ar gyfer WLGA 2008