Gwasanaethau llywodraeth leol > Gwella Iechyd
 |
| Gwella iechyd: Hyfforddwyr wrthi’n sôn am wella iechyd a bwyd maethlon yn un
o ysgolion Bwrdeistref Sirol Caerffili. |
|
Mae iechyd yn ymwneud â mwy na rhestrau aros a rhagnodion. Mae sawl ffactor, megis nodweddion amgylcheddol a phersonol yn effeithio ar iechyd pobl a chymunedau ac, felly, all yr un sector, asiantaeth nac unigolyn ddim gwella sefyllfa iechyd ar ei ben ei hun. Mae iechyd yn gyfrifoldeb i bawb.

n ogystal ag eco sustem y byd a ffactorau unigol, mae sawl dylanwad arall ar iechyd ac mae'r cynghorau wedi cymryd rhan flaengar ynghylch eu ffurfio ers y 19eg ganrif pan oedd plwyfi, siroedd a bwrdeistrefi'n helpu'r tlodion ac yn rhoi amwynderau cyffredin ar gael.
Mae pob un o wasanaethau'r awdurdodau lleol yn effeithio ar iechyd a lles pobl a'u cymunedau. Mae cydnabyddiaeth o bwysigrwydd ein rôl ynghylch gwella lles yn cynyddu ac mae'r awdurdodau lleol yn cael eu gweld fwyfwy yn asiantaethau gwella cyflwr iechyd yn eu rhinweddau eu hunain.
Mae byd llywodraeth leol Cymru wedi ysgogi ei ffordd o wella materion iechyd trwy gymryd camau yn ôl strategaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles (wedi'u llunio a'u cyflwyno gan bartneriaethau lleol) a Her Iechyd Cymru. Mae pob un o'r 22 awdurdod wedi ymrwymo i'r egwyddorion isod i wneud y gorau o'n cyfleoedd ynghylch gwella cyflwr iechyd ein pobl ni:
- Manteisio ar ein rôl ynghylch arwain y gymuned;
- diogelu iechyd trwy gyflawni'n cyfrifoldebau statudol;
- rhoi gofal a chymorth o'r radd flaenaf i garfanau bregus eu sefyllfa;
- datblygu partneriaethau strategol lleol cryf i wella byd pobl yn gynaladwy;
- buddsoddi yn ein gweithlu;
- llunio polisïau yn ôl tystiolaeth trwy gasglu gwybodaeth gadarn;
- adlewyrchu egwyddorion Breinlen Ottawa Sefydliad Iechyd y Byd fwyfwy.
Byrddau iechyd lleol yw’r cyrff sy'n gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau gofal sylfaenol a gwasanaethau ysbyty a iechyd cymunedol i ddiwallu anghenion sy wedi'u nodi'n lleol. Eu prif rôl yw rhoi ar waith strategaethau sy'n gwella iechyd y boblogaeth trwy bartneriaethau. Mae'u ffiniau daearyddol yn cyd-fynd â rhai'r cynghorau a nhw yw'r prif bartneriaid statudol ynghylch llunio strategaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles yn ardaloedd awdurdodau unedol Cymru a'u rhoi ar waith. Mae gan bob bwrdd gadeirydd wedi'i benodi gan y Gweinidog ac mae'r byrddau'n atebol i'r Cynulliad. Mae gan y GIG 14 ymddiriedolaeth yng Nghymru, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Ambiwlansys Cymru, ar gyfer gofal eilaidd/trydyddol a gwasanaethau iechyd cymunedol.
Mae dull unigryw o wella iechyd yng Nghymru, sef partneriaethau rhwng llywodraeth leol a'r byrddau iechyd lleol ac asiantaethau eraill i hybu gweithio ar draws y sectorau.
Yn sgîl Adroddiad Beecham – Ar Draws Ffiniau (Gorffennaf 2006) ac ymateb Llywodraeth y Cynulliad, Creu'r Cysylltiadau: Cyflawni Ar Draws Ffiniau (Tachwedd 2006) – mae'r dull cydweithio strategol yma'n un i'w hyrwyddo a'i ddatblygu.
Strategaeth HSCWB ydy’r prif fframwaith ar gyfer gwelliannau ym maes iechyd y cymunedau - pery hwn yn un o’r nifer fach o gynlluniau lleol y mae gofyn cyfreithiol amdanyn nhw – a’i sylfaen yw asesiad cynhwystawr o anghenion y boblogaeth leol, wedi’i seilio ar y diagram uchod.
- Adnoddau i wella iechyd
Mae angen buddsoddiad diogel, y tymor hir, i ddatblygu'r ymateb ar y cyd i heriau gwella iechyd Cymru ymhellach. Rhaid cryfhau'r gallu a'r cysylltiadau lleol yn sgîl gwaith y partneriaethau lleol dros iechyd, gofal cymdeithasol a lles.
- Ymgorffori materion gwella iechyd
Rhaid atgyfnerthu rôl byd llywodraeth leol ynghylch arwain y gymuned i gydnabod y ffordd mae'r cynghorau'n cydlynu trefniadau gwella iechyd ac yn eu cynnal ar y cyd. Rhaid annog y cynghorau i bennu delfryd a chyfeiriad lleol o ran gwella iechyd a lleddfu anghydraddoldeb yn y maes, a hynny trwy gynrychioli a galluogi pobl eu bröydd – er enghraifft, ailwampio gwasanaethau gofal iechyd.
- Llunio polisïau lleol iachach
O gasglu, lledaenu a defnyddio gwybodaeth berthnasol a manteisio ar ddulliau megis asesu effeithiau ar iechyd, bydd modd ystyried materion iechyd i raddau mwy wrth lunio polisïau lleol. Partneriaethau sy'n gyfrifol am roi polisïau o'r fath ar waith fwyfwy i ofalu bod gwasanaethau'n anelu at wella iechyd.
- Lleddfu anghydraddoldeb ym maes iechyd
Rhaid deall yr anghenion yn well o lawer i gyfeirio buddsoddi, trwy waith megis asesu anghenion y gymuned mewn modd ehangach, mwy cyfun, a mapio adnoddau lleol yn fwy cadarn. Mae'r byrddau iechyd lleol yn dechrau trafod gwella iechyd a lleddfu anghydraddoldeb ym maes iechyd a dylai'r materion hynny fod yn rhan o gytundebau gwasanaethau lleol. Rhaid cysylltu pob angen sydd wedi'i nodi â set syml o ddangosyddion i'w rhannu, gan fuddsoddi yn y ffyrdd mwyaf effeithiol o wella byd cymunedau.
- Camau cyfun
Mae partneriaid ynghylch gofal iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol yn cydnabod eu bod yn gyfrifol ar y cyd am hwyluso gofal parhaus a throsglwyddo cyfrifoldeb am ofal yn ddiymdroi. Mae cydweithio arloesol yn mynd rhagddo yn barod a rhaid ei gryfhau a'i hyrwyddo. Gallai defnydd adeiladol, ychwanegol o brosesau craffu lleol ym maes iechyd, yn sgîl profiad gwledydd eraill, fod o gymorth yn hyn o beth.
 |
Adroddiad Beecham: Ar Draws Ffiniau
Creu'r Cysylltiadau: Cyflawni Ar Draws Ffiniau
Creu'r Cysylltiadau: Darparu Gwasanaethau Gwell i Gymru
Creu'r Cysylltiadau: Byrddau gwasanaethau lleol yng Nghymru: Prosbectws ar gyfer y cam cyntaf, 2007-2008
Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol
Yn ôl i’r brig
|
|