Gwasanaethau llywodraeth leol > Yr Amgylchedd a Chefn Gwlad
Mae ansawdd yr amgylchedd yn hollbwysig i'n ffordd o fyw a'n lles cyffredinol ac mae cefn gwlad Cymru yn cynnig manteision sylweddol ar gyfer datblygu cynaladwy. Mae rôl hanfodol i'r awdurdodau lleol ynglŷn â gofalu bod pawb yn defnyddio'r adnodd yma'n gytbwys er hyfywedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Mae’r cynghorau yn warchodwyr yr amgylchedd lleol. Maen nhw'n rheoli mannau o bwys megis arfordiroedd treftadaeth, glan y môr a'r traethau, ardaloedd o brydferthwch naturiol eithriadol, parciau, mannau agored a safleoedd treftadaeth. Mae'r cynghorau'n gyfrifol am gadw trefn ar yr amgylchedd trwy wasanaethau megis monitro a gorfodi ynghylch ansawdd yr awyr a glanhau tir sy wedi'i ddifwyno. Rhai o orchwylion amlycaf y cynghorau ym maes rheoli'r amgylchedd yw cael gwared ar wastraff wedi'i ddadlwytho'n anghyfreithlon, murysgrifen a sbwriel wedi'i luchio. Trwy waith y cynghorau ynglŷn â rheoli hawliau tramwy a safleoedd allweddol, mae'n bosibl i bobl fwynhau'r amgylchedd. Ychwanegodd Deddf 'Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy' 2000, a ddaeth i rym yn 2005, at hawliau'r cyhoedd i grwydro cefn gwlad. Mae'r cynghorau'n gwneud llawer o'r gwaith hwnnw ar y cyd â chyrff eraill megis Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth. Trwy eu swyddogaeth ynghylch cynllunio statudol, mae'r cynghorau'n pennu dibenion tir ac yn cadw trefn ar adeiladu.
Mae'r strategaeth gymunedol a'r cynllun datblygu unedol yn hanfodol o ran hwyluso twf cytbwys er ffyniant parhaus y cymunedau.
Mae awdurdodau'r tri pharc cenedlaethol (Bannau Brycheiniog, Eryri a Sir Benfro) yn gwarchod prydferthwch naturiol, bywyd gwyllt a chynhysgaeth ddiwylliannol 20% o Gymru ac yn annog pobl i ddefnyddio’r ardaloedd hynny a’u mwynhau.
Dyma'r heriau pwysig i'r wlad:
- Gofalu bod y twf yn gytbwys er lles y gymdeithas, yr economi a'r amgylchedd.
- Addasu a rheoli'n hymateb i oblygiadau'r newid yn yr hinsawdd fel y gall Cymru ymdopi'n well ag e.
- Lleddfu'n heffaith ar yr amgylchedd i rwystro'r newid yn yr hinsawdd.
- Rhoi Strategaeth yr Amgylchedd, wedi'i chyhoeddi yn 2006, ar waith.
- Deall effaith y newid yn yr hinsawdd a'r goblygiadau i'n cymunedau.
- Pryderon am gyflwr rhwydwaith yr hawliau tramwy a chost ei gynnal.
- Gofalu bod y cynghorau'n deall effaith eu penderfyniadau ar yr amgylchedd ac yn hyrwyddo datblygu cynaladwy.
- Gofalu bod y Cynllun Datblygu Gwledig yn arwain at fanteision go iawn i gymunedau ledled Cymru.
- Cyflawni dyletswydd statudol datblygu cynaladwy yn rhan o swyddogaeth pob awdurdod cynllunio lleol.
- Cyflawni dyletswydd newydd yr awdurdod ynghylch bioamrywiaeth.
- Cadw'r amgylchedd yn lân ac yn llawn bywyd, gan gwtogi ar niwsans megis lluchio sbwriel, murysgrifen a dadlwytho sbwriel heb ganiatâd.
- Mae 17,000 o swyddi amser llawn yng Nghymru yn ymwneud â defnyddio, rheoli a mwynhau'r amgylchedd. Mae hynny’n werth £8.8 biliwn y flwyddyn i’r wlad.
- Mae dros 25% o Gymru yn warchodfeydd bywyd gwyllt, diwylliant a thirweddau.
- Mae dros 40,000 km o lwybrau cyhoeddus, llwybrau meirch a mân ffyrdd yng Nghymru.
- Mae ansawdd awyr trefi Cymru yn waeth nag yn Lloegr – mae 10 ardal rheoli ansawdd yr awyr yng Nghymru.
- Roedd bron 50,000 o achosion o ddadlwytho sbwriel heb ganiatâd yn 2005/06, cost o tua £2.4 miliwn i fyd llywodraeth leol.
- Mae 46% o gynefinoedd pwysicaf Cymru yn dirywio. Mae hyn yn destun pryder am fod bioamrywiaeth yn hanfodol i eco sustem y wlad.
Strategaeth Amgylcheddol Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru
Countryside and Rights of Way Act 2000, Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus, Llywodraeth y DG (Saesneg yn unig)
Gweithio'n Well ar y Cyd, WLGA
Cynllun Datblygu Gwledig 2007 - 2013: Dull Strategol yng Nghymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru
Yn ôl i’r brig
|
|