Gwasanaethau llywodraeth leol > Addysg a Dysgu Gydol Oes
Mae dysgu gydol oes ar drywydd unigryw yng Nghymru yn sgîl datganoli, yn unol â nodau cynllun strategol Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer addysg yma, Y Wlad sy'n Dysgu. Cafodd y cynllun ei ddiweddaru yn 2006 trwy gyhoeddi Y Wlad sy'n Dysgu: Gweledigaeth ar Waith, a atgyfnerthodd nodau Llywodraeth y Cynulliad ym maes dysgu, boed ysgol feithrin neu gwrs hyfforddi i oedolion.
Mae dyletswydd ar yr awdurdodau lleol; hyrwyddo safonau yn yr ysgolion ac mae cyrhaeddiad addysgol Cymru wedi gwella'n barhaus ers datganoli ym 1999. Dengys y ffigurau cyntaf am ganlyniadau arholiadau 2006, fod canran y rhai a lwyddodd ar Safon Uwch wedi codi, gyda 96.9% o’rymgeiswyr yn ennill graddau A-E. Llwyddodd 98.1% yn arholiad TGAU ac fe gododd nifer y rhai a enillodd A*-C o 1% i 62.3%. Dim ond rhan o rôl yr awdurdodau lleol yw gwella cyrhaeddiad addysgol, fodd bynnag.
Mae rôl yr awdurdodau lleol ym maes addysg a hyfforddiant wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf hyn. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyflwyno nifer o bolisïau sydd wedi effeithio ar eu gwaith. Dyma'r rhai pwysicaf o safbwynt byd llywodraeth leol:
Mae Deddf Plant 2004 yn pennu ffordd newydd o gynllunio ar gyfer gwasanaethau i blant a phobl ifainc, gan gynnwys addysg. Y prif newid yw y bydd y cynlluniau addysg cyfredol yn rhan o gynllun cynhwysfawr ar gyfer plant a phobl ifainc. Bydd y cynllun newydd yn ymwneud â'r gwasanaethau i gyd i blant a phobl ifainc yn ardal yr awdurdod lleol o 2008. Partneriaeth ar gyfer plant a phobl ifainc fydd yn paratoi'r cynllun ym mhob awdurdod. Er mai'r awdurdod lleol sy'n bennaf cyfrifol amdano, mae nifer o bartneriaid eraill megis y gwasanaeth iechyd, yr heddlu, y gwasanaeth prawf, y timau ar gyfer troseddwyr ifainc a'r sector gwirfoddol yn gyfrifol am ei baratoi a'i gyflwyno, hefyd. Rhaid i bob partner gydweithio i roi gwasanaethau i blant a phobl ifainc yn ôl eu hanghenion.
Mae hyn yn dipyn o her i bob partner sy'n ymwneud â pharatoi'r cynlluniau. Er nad yw'r syniad o weithio mewn partneriaeth yn un newydd i'r awdurdodau lleol, bydd angen amser ac ymrwymiad i roi'r prosesau ar waith. Ym marn yr awdurdodau lleol, gofalu bod y trefniadau cydweithio'n briodol yw'r brif elfen o ran cyflawni eu cyfrifoldeb pwysicaf – ymroi i wella byd plant a phobl ifainc beth bynnag fo eu cefndir a'u sefyllfa.
Hanfod y cyfnod yma yw trefniadau cwrícwlwm ac asesu ar gyfer y plant 3-7 oed ac, felly, mae'n ymwneud yn uniongyrchol â gweithgareddau'r ysgolion i blant bach. Nod y cyfnod yw trin a thrafod addysg plant bach mewn modd cyflawn trwy gyfuniad o ddysgu y bydd y plant yn ei sbarduno a dysgu y bydd oedolion yn ei chyfeirio. Un o brif nodau'r Cyfnod Sylfaen yw gofalu bod 1 oedolyn i bob 8 o blant fel y gall staff cymwysedig gyfrannu rhagor.
Mae Llywodraeth y Cynulliad am ofalu, erbyn 2015, y bydd 95% o’r bobl yn barod ar gyfer gwaith tra medrus neu addysg uwch erbyn troi'n 25 oed. Bydd yn hanfodol datblygu Llwybrau Dysgu 14-19 i gyrraedd y nod hwnnw.
Nod cyntaf y fenter yw rhoi cyfle i blant a phobl ifainc i gyraedd eu llawn dwf mewn maes academaidd neu alwedigaethol. Mae gofyn i ysgolion, colegau addysg bellach a chwmnïau i gydweithio i roi amryw gyfleoedd i bobl ifainc gael y math o addysg a hyfforddiant sy'n addas iddyn nhw. Mae hawl gan bobl ifainc i fanteisio ar gymorth hyfforddwyr dysgu wrth ddatblygu eu llwybrau dysgu nhw. I yrru'r rhaglen yn ei blaen a rhoi arweiniad strategol, mae'r awdurdodau lleol wedi sefydlu rhwydweithiau dysgu sy'n dod â'r prif gyrff cysylltiedig ynghyd.
Ysgolion yw canol y gymuned, yn aml, er nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio'n ddigonol gyda'r nos, dros y Sul nac yn ystod y gwyliau. Diben Menter Ysgolion Bro yw annog yr ysgolion a'r awdurdodau lleol i ystyried ysgolion yn adnoddau i'r gymuned. Ystyr hyn yw eu defnyddio i ddibenion ychwanegol megis iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, llyfrgelloedd a gweithgareddau addysgu oedolion yn ogystal â'r clybiau arferol i blant a phobl ifainc.
Yn ôl canlyniadau gwaith WLGA a Llywodraeth y Cynulliad ym mhrosiect Cau'r Bwlch, un o brif nodweddion ysgol lwyddiannus yw perthynas agos â'r gymuned ehangach a diben Menter Ysgolion Bro yw hwyluso'r berthynas honno. Pan fo ysgol yn ymwneud â phobl ei bro, mae cyrhaeddiad a chymhelliant pawb yn cynyddu er lles y disgyblion.
Dyma'r heriau pwysicaf ledled y wlad:-
- gofalu bod lefelau cyrhaeddiad yn parhau i wella yn yr ysgolion cynradd ac uwchradd fel ei gilydd
- parhau i gydweithio â phartneriaid megis sectorau addysg bellach ac uwch i roi gwasanaethau o'r radd flaenaf i blant a phobl ifainc
- cydweithio â Llywodraeth y Cynulliad i ofalu bod pob ysgol mewn cyflwr da, mewn lle priodol ac yn ateb disgwyliadau addysgol yr 21ain ganrif
- roedd 484,889 o ddisgyblion yn ymwneud ag addysg wladol mewn 1,944 o ysgolion yng Nghymru yn 2005/06;
- gwariodd byd llywodraeth leol £1.9 biliwn ar addysg yn 2006/07
- enillodd 53.8% o ddisgyblion TGAU raddau A*-C mewn 5 pwnc neu ragor yn 2005/06 ac enillodd 86% o ddisgyblion raddau A*-G.
Trawsnewid ysgolion: papur trafod (Estyn, Mawrth 2007)
Adroddiad Blynyddol 2005-2006 Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (Estyn, Ionawr 2007)
Y Wlad sy'n Dysgu: Gweledigaeth ar Waith (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2006)
Prosiect Cau'r Bwlch ym Mherfformiad yr Ysgolion: Cam II Ysgolion Uwchradd (Llywodraeth Cynulliad Cymru, Tachwedd 2005)
Cau'r Bwlch ym Mherfformiad yr Ysgolion (Llywodraeth Cynulliad Cymru, Hydref 2002)
Yn ôl i’r brig
|