Gwasanaethau llywodraeth leol > Diogelwch yn y Gymuned
Mae diogelwch yn bwnc llosg ym mhob cymuned. Mae'n bwysig i bobl drwy'r amser achos ei fod yn gallu effeithio ar ansawdd bywydau'r trigolion a'u cymunedau nhw. Dros y blynyddoedd diwethaf hyn, mae pawb wedi sylweddoli nad oes modd i'r heddluoedd ddiogelu cymunedau ar eu pennau eu hunain ac y gallai trefn lle mae nifer o asiantaethau'n gweithio ar y cyd fod yn fwy effeithiol o lawer.
Mae Deddf 'Troseddu ac Anhrefn' 1998 yn hyrwyddo dull cydlynol o'r fath trwy fynnu bod yn ardal pob awdurdod lleol bartneriaeth dros ddiogelwch yn y gymuned ac iddi gynrychiolwyr o'r awdurdod lleol, yr heddlu, awdurdod yr heddlu, awdurdod y gwasanaeth tân ac achub a'r bwrdd iechyd lleol.
Mae diogelwch yn y gymuned yn ymwneud ag ystod eang o bolisïau megis yr heddlu, troseddu ac anhrefn, ymddygiad gwrthgymdeithasol, camddefnyddio cyffuriau, trais yn y cartref a thân. Yn ogystal â rôl benodol yr awdurdodau lleol yn rhan o'r partneriaethau, mae llawer o'u gwasanaethau craidd yn helpu i ofalu bod cymunedau Cymru yn ddiogel, gan gynnwys:
- trafnidiaeth – ar gyfer diogelwch y ffyrdd
- addysg – hyrwyddo dinasyddiaeth a chadw pobl ifainc rhag troseddu
- yr amgylchedd – trin a thrafod troseddau amgylcheddol megis murysgrifen a dadlwytho sbwriel yn anghyfreithlon
- tai – diogelu preswylwyr rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol
- gwasanaethau cymdeithasol – diogelu pobl fregus eu sefyllfa, helpu'r rhai sydd wedi dioddef o achos troseddu a chydlynu'r timau i droseddwyr ifainc
- hamdden a materion diwylliannol – cynnig gweithgareddau amgen i'r rhai a allai droseddu
- cynllunio – llunio ardaloedd trefol na fydd yn hwyluso troseddu nac ymddygiad gwrthgymdeithasol
- gwasanaethau cymunedol – gwardeiniaid a theledu cylch cyfyng
- gwasanaethau rheoleiddio – hyrwyddo dibenion Deddf 'Trwyddedu' 2003 ynghylch atal troseddu ac anhrefn a diogelu'r cyhoedd
Mae rôl yr awdurdodau lleol o ran diogelwch yn y gymuned wedi'i chyfnerthu ymhellach yn Adran 17 Deddf 'Troseddu ac Anhrefn' sy'n gofyn iddyn nhw ystyried materion troseddu ac anhrefn wrth gyflawni pob swyddogaeth.
Mae deddfau yn ddiweddar wedi ychwanegu at gyfrifoldebau'r awdurdodau lleol ynghylch diogelwch yn y gymuned. Mae'r newidiadau yn Neddf 'Troseddu ac Anhrefn' a gyflwynodd Deddf 'Yr Heddlu a Chyfiawnder' 2006 yn ehangu'r gofyn i'r awdurdodau ystyried materion troseddu ac anhrefn wrth gyflawni pob swyddogaeth. Mae'n cwmpasu ymddygiad sy'n effeithio ar y gymdeithas a'r amgylchedd bellach, hefyd, yn ogystal â chamddefnyddio cyffuriau, alcohol a phethau eraill.
Newidiodd Deddf 'Yr Heddlu a Chyfiawnder' drefn partneriaethau diogelwch yn y gymuned a'r modd maen nhw'n cyflawni eu swyddogaethau. Cafodd safonau gwladol derbyniol eu cyflwyno yn hydref 2007. Un o amodau eraill y ddeddf yw y bydd rhaid i'r partneriaethau sefydlu rhaglenni treigl 3 blynedd i'w hadolygu bob blwyddyn, yn lle paratoi strategaethau 3 blynedd.
Mae rôl yr awdurdodau lleol ynghylch mynd i'r afael ag ymddygiad gwael wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf hyn, hefyd. Mae amryw bwerau gyda nhw i wneud hynny yn eu bröydd bellach, gan gynnwys gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol, cytundebau ymddygiad derbyniol, dirwyon am anhrefn a gorchmynion i rieni. Mae Deddf 'Cwtogi ar Droseddu Treisgar' 2006 yn gadael i bob awdurdod drin a thrafod anhrefn sy'n ymwneud ag alcohol, ar y cyd â'r heddlu, trwy amryw ddulliau, megis gorchmynion gwahardd yfed a pharthau anhrefn o achos alcohol.
Gwefan WLGA (Diogelwch yn y gymuned): www.wlga.gov.uk
Gwefan y Swyddfa Gartref (cwtogi ar droseddu): www.crimereduction.gov.uk
Gwefan Llywodraeth y Cynulliad (Diogelwch cymunedol): www.wales.gov.uk
Ystadegau am droseddau yng Nghymru a Lloegr
Crime Strategy – Cutting Crime: A New Partnership
Delivering Safer Communities: A Guide to Effective Partnership working
Guide to Anti-Social Behaviour Orders and Acceptable Behaviour Contracts
Mynd i'r Afael â Cham-drin yn y Cartref: Strategaeth Genedlaethol Cymru
Yn ôl i’r brig
|