|
Dyma gefndir a gwybodaeth ynglŷn â materion cyfoes byd llywodraeth leol, i'ch helpu i ymgyrchu a pharatoi ar gyfer y swydd. O safbwynt enw da byd llywodraeth leol, mae'n bwysig iawn i ymgyrchu o'r fath gyfleu darlun teg a chywir o rôl y cynghorau lleol a'r prif bynciau cyfoes.
Mae pedair pennod, 'Llywodraethu yng Nghymru', 'Llywodraethu cynghorau lleol', 'Gwasanaethau llywodraeth leol' a 'Beth mae disgwyl imi ei wneud?' sy'n rhoi gwybodaeth am y fframwaith gwladol, gweithgareddau a gwasanaethau'r cynghorau lleol a'r hyn mae disgwyl i'r cynghorwyr ei wneud.
At hynny, mae llawer o ddogfennau pwysig ar y ddisgen a gallwch chi ddod o hyd iddyn nhw trwy naill ai glicio ar y teitlau yn y testun neu ar y dolenni ar ddiwedd pob pennod. Dylech chi eu darllen nhw i ofalu eich bod yn gwybod cymaint ag y bo modd am y rôl rydych chi'n bwriadu ei hysgwyddo.
Ar ddiwedd pob pennod, mae llyfryddiaeth ar gyfer darllen ychwanegol a dolenni â gwefannau cyrff perthnasol. Dylech chi fanteisio ar yr wybodaeth honno. I ddefnyddio'r dolenni, bydd angen cyswllt â'r wefan.
A chithau'n ymgeisydd, bydd angen ichi:
- Hel yr wybodaeth briodol cyn dechrau ymgyrchu.
- Gofalu bod manylion yn gywir ac yn gyfoes cyn sôn amdanyn nhw.
- Bod yn siwr am rôl a phwerau'ch cyngor cyn gwneud addewidion i'r etholwyr.
- Bod yn ymarferol am y posibiliadau ynghylch newid a gwella wrth roi addewidion o'r fath.
- Osgoi niweidio enw da'r cyngor trwy sylwadau di-sail neu ddadleuol.
I ymholi am y canllaw, cysylltwch â Raine Larcher, Ymgynghorydd Perfformio a Gwella – raine.larcher@wlga.gov.uk neu 029 20 468635.
Beth yw WLGA?
Prif ddibenion WLGA yw hyrwyddo safonau ac enw da byd llywodraeth leol a helpu'r awdurdodau i lunio polisïau a blaenoriaethau fydd yn gwella gwasanaethau cyhoeddus a democratiaeth. Mae'n cynrychioli 22 awdurdod lleol Cymru ac mae awdurdodau'r 4 heddlu, y 3 gwasanaeth tân ac achub a'r 3 pharc cenedlaethol yn aelodau cyswllt.
Mae WLGA yn gorff cynrychioli gwleidyddol ac mae'r 22 gyngor ynghlwm wrthi. Arweinyddion y cynghorau hynny a 79 aelod Cyngor WLGA sy'n cynnal ei gweithgareddau ac yn rhoi mandad iddi. Mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan: www.wlga.gov.uk.
Mae canllawiau am reoliadau a gweithdrefnau'r etholiadau gan y Comisiwn Etholiadol: www.electoralcommission.gov.uk. Mae'r comisiwn yn annog pobl i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, yn hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o faterion etholiadol ac yn rheoleiddio'r pleidiau gwleidyddol.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyfrannu arian at gynhyrchu'r canllaw hwn.
Yn ôl i’r brig
|