Llywodraethu yng Nghymru > Cydweithio â Llywodraeth y DG
Er bod gan y Cynulliad a'i lywodraeth bwerau sylweddol ynglŷn â llawer o'r arian, y deddfau a'r polisïau sy'n berthnasol i fyd llywodraeth leol (pwerau a fydd yn cynyddu yn sgîl datganoli, yn ôl pob tebyg), mae rhaid i'r cynghorau barhau i gydweithio'n agos â gweinidogion, aelodau seneddol a gweision gwladol yn Llundain.
Mae rhai o'r meysydd pwysig sy'n effeithio ar fyd llywodraeth leol heb eu datganoli, megis cyfrifoldebau'r Swyddfa Gartref am blismona a chymunedau diogel a threfn y trethi lleol (trethi'r cynghorau).
Mae gan y cynghorau gysylltiadau uniongyrchol â Llywodraeth y DG trwy'r cynghorwyr a'r swyddogion sy'n cydweithio ag aelodau seneddol lleol a'r gweinidogion perthnasol. WLGA sy'n ymwneud â llawer o'r cynrychioli cenedlaethol ac mae ei llefarwyr yn cwrdd yn rheolaidd â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru a gweinidogion eraill Swyddfa Cymru yn ogystal â gweinidogion dros feysydd heb eu datganoli.
Yn ôl i’r brig
|