Llwodraeth Leol Canllaw Ymgeiswyr
 
WLGA logo
Hafan Llywodraethu Cynghorau Lleol Gwasanaethau Llywodraeth Leol Beth Mae Disgwyl Imi Ei Wneud?   English
Cyflwyniad
Byd Llywodraeth Leol
Cydweithio â Llywodraeth y Cynulliad
Cydweithio â Llywodraeth y DG
Cydweithio ag Undeb Ewrop
Cydweithio â Chynghorau Tref a Bro
Gwybodaeth Ychwanegol

Welsh Assembly Government Logo

Llywodraethu yng Nghymru > Cydweithio â Chynghorau Tref a Bro

Cydweithio â Chynghorau Tref a Bro

Town and Community Council Hall

Mae dros 730 o gynghorau tref a bro yng Nghymru ac mae gyda nhw dros 8,000 o gynghorwyr. Nid ym mhob rhan o Gymru mae cynghorau o'r fath gan fod gweithdrefn i'w sefydlu neu eu diddymu yn ôl dymuniad y trigolion. Maen nhw'n cael pennu archebiant neu gyfradd y bydd y cyngor yn eu casglu ynghyd â'i dreth. Mae lefel y gwasanaethau mae'r cynghorau hynny'n eu rhoi yn amrywio ledled Cymru ac er bod rhai'n fodlon cadw at gynrychioli yn bennaf, mae llawer yn rhoi amryw wasanaethau megis cynnal a chadw neuaddau, llochesi bysiau, mannau cyhoeddus a meysydd chwarae ar ran y gymuned. Mewn rhai rhannau o Gymru ceir llawer o gynghorwyr sy’n gynghorwyr tref neu fro yn ogystal â bod yn gynghorwyr tros eu hardaloedd. Mae'n bwysig i aelodau'r cynghorau unedol a'r cynghorau tref a bro gydweithio i gynrychioli eu cymunedau ac, yn yr un modd, mae'r cynghorau tref a bro yn cael eu hannog i gydweithio'n agos â'i gilydd, cwrdd yn rheolaidd a sefydlu protocolau ar gyfer cyfathrebu ac ymgynghori.

 

Yn ôl i’r brig

Llwytho ffeil i lawr.
Argraffwch dim ond os gwir angen hynny.
Modd testun arferol Modd testun gwelededd amlwg

 

Gwaith dylunio a pharatoi CeriLovett and Blue Apple ar gyfer WLGA 2008