Llywodraethu yng Nghymru > Cyflwyniad
Yn sgîl datganoli, mae pum haen o ddemocratiaeth gynrychioladol yng Nghymru bellach. Mae'r etholwyr yn cael eu cynrychioli gan aelodau o Senedd San Steffan, Senedd Ewrop, y Cynulliad a'r cyngor unedol lleol (yr awdurdod lleol). Yn y rhan fwyaf o ardaloedd gwledig a rhai ardaloedd trefol, mae cynghorau tref a bro hefyd. Mae awdurdodau ar gyfer 3 pharc cenedlaethol, 3 gwasanaeth tân ac achub a 4 heddlu Cymru, hefyd.
Mae 4 o aelodau Senedd Ewrop a 40 o aelodau San Steffan yn cynrychioli Cymru. At hynny, mae 60 o aelodau yn y Cynulliad a 1264 o gynghorwyr yn y 22 o gynghorau unedol. Mae tua 8,000 o gynghorwyr mewn rhyw 730 o gynghorau tref a bro, hefyd.
Mae'r Cynulliad yn noddi amryw gyrff cyhoeddus heb eu hethol sy'n gyfrifol am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn ogystal. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn penodi lleygwyr yn aelodau anweithredol o fyrddau rheoli'r cyrff hynny. Mae cynghorwyr sy'n cynrychioli barn a buddiannau'r cynghorau unedol yn rhan o'r byrddau, hefyd. Ymhlith y cyrff noddedig mae Cyngor Celfyddydau Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd.
22 fwrdd iechyd lleol ac iddyn nhw'r un ffiniau daearyddol â'r awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am atal afiechyd a chomisiynu/goruchwylio gwasanaethau iechyd sylfaenol ac eilaidd lleol. Mae'r byrddau'n hollbwysig ynghylch y modd mae'r GIG a'r gwasanaethau lleol yn ymwneud â'i gilydd ac, felly, mae uwch gynghorwyr a swyddogion yn aelodau ohonyn nhw.
Mae rôl ganolog i'r cynghorau yn y byrddau gwasanaethau lleol sydd newydd gael eu sefydlu yn ardal pob awdurdod lleol. Bydd y byrddau'n dod ag arweinyddion a phrifweithredwyr y cyrff sy'n rhoi'r gwasanaethau cyhoeddus pwysig ym mhob sector at ei gilydd i ddatrys anawsterau amlwg neu feini tramgwydd yn eu plith. Bydd agwedd ychwanegol at rôl y cynghorwyr hefyd ynghylch bwrw golwg ehangach ar y gwasanaethau cyhoeddus fel y gallan nhw ddweud eu dweud am bob gwasanaeth o'r fath yn eu cymunedau.
Mae’r 22 o gynghorau Cymru ar flaen y gad o ran arloesi a chydweithio yn y sector cyhoeddus. Mae 4 bwrdd rhanbarthol wedi'u sefydlu ledled y wlad lle mae'r cynghorau'n rhannu arbenigedd ac yn lledaenu arferion da, gan drefnu a rhoi rhagor o wasanaethau ar y cyd. Trwy wneud hynny, bydd modd gwella gwasanaethau cyhoeddus ac arbed gwariant sylweddol ynglŷn â gwasanaethau.
Mae trefniadau 'cyfranogol' arbennig hefyd ym mröydd mwyaf difreintiedig Cymru fel y gall pobl leol helpu i nodi a hwyluso ffyrdd o wella eu byd a rhoi pob cyfle teg i bawb. Yn rhan o Raglen 'Cymunedau'n Gyntaf' Llywodraeth y Cynulliad – 'Cymunedau Nesaf' cyn bo hir – mae partneriaethau lleol yn 140 o gymunedau mwyaf difreintiedig y wlad yn dod â chynrychiolwyr y buddiannau i gyd at ei gilydd i reoli rhaglenni ariannu sy'n mynd i'r afael ag amddifadedd ac yn datblygu gallu'r gymuned.
Yn ôl i’r brig
|