Llwodraeth Leol Canllaw Ymgeiswyr
 
WLGA logo
Hafan Llywodraethu Cynghorau Lleol Gwasanaethau Llywodraeth Leol Beth Mae Disgwyl Imi Ei Wneud?   English
Cyflwyniad
Byd Llywodraeth Leol
Cydweithio â Llywodraeth y Cynulliad
Cydweithio â Llywodraeth y DG
Cydweithio ag Undeb Ewrop
Cydweithio â Chynghorau Tref a Bro
Gwybodaeth Ychwanegol

Welsh Assembly Government Logo

Llywodraethu yng Nghymru > Byd Llywodraeth Leol

Byd Llywodraeth Leol

© Vale of Glamorgan Council 2007

Mae cynghorau Cymru yn gynrychiolwyr democrataidd eu cymunedau ac maen nhw'n annog pobl leol i gymryd rhan mewn democratiaeth leol. Mae cyfle i ethol cyngor newydd bob pedair blynedd. Er bod y cynghorau'n cynnig amrywiaeth helaeth o wasanaethau personol, cymunedol ac amgylcheddol hanfodol i'r trigolion a'u cymunedau, maen nhw'n cael arwain y cymunedau hynny hefyd trwy lywio, ysgogi a chynorthwyo cyrff sy'n bartneriaid iddyn nhw i fodloni dyheadau ac anghenion y trigolion.

Yng ngolwg y gyfraith, mae’r cyngor yn gorfforaeth. Mae gofyn iddo roi gwasanaethau statudol yn ôl y deddfau perthnasol ac mae'n cael rhoi gwasanaethau eraill fel y gwêl yn dda. Mae arno gyfrifoldebau statudol dros roi gwasanaethau lleol, megis gofal cymdeithasol, a chadw trefn ar feysydd megis gwaith adeiladu a iechyd yr amgylchedd. Mae'r cyngor yn rhoi gwasanaethau naill ai ar ei ben ei hun, ar y cyd â chyrff eraill neu trwy benodi asiantaethau i'w rhoi ar ei ran. Nid elw yw cymhelliant y cyngor, er ei fod yn cynnal rhai gwasanaethau masnachol, megis arlwyo, a rhai gwasanaethau sy'n cystadlu â'r sector preifat, megis canolfannau hamdden.

 

Yn ôl i’r brig

Llwytho ffeil i lawr.
Argraffwch dim ond os gwir angen hynny.
Modd testun arferol Modd testun gwelededd amlwg

 

 

Gwaith dylunio a pharatoi CeriLovett and Blue Apple ar gyfer WLGA 2008