| Llywodraethu yng Nghymru >
Mae 22 awdurdod lleol Cymru yn hollbwysig ynghylch llywodraethu'r wlad. Mae byd llywodraeth leol Cymru’n hanfodol i ddemocratiaeth gyfranogol a gweithredol, ac yn rhoi’r arweiniad a’r gwasanaethau mae eu hangen ar gyfer economi lleol ffyniannus a chymunedau lleol cynaladwy. Mae cynghorau Cymru yn gwario tua £8 biliwn ac yn cyflogi 165,000 o bobl wrth roi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol sy'n effeithio ar fywyd bob dydd pawb.
Mae'r awdurdodau lleol yn gynrychiolwyr democrataidd i'w bröydd ac yn annog eu trigolion i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd leol. Mae'r cyngor yn rhoi amrywiaeth eang o wasanaethau personol, cymunedol ac amgylcheddol ar gyfer unigolion a chymunedau cyfan 'o'r crud i'r bedd'. Mae byd llywodraeth leol Cymru yn gyfrifol am ystod eang o wasanaethau a dyletswyddau, gan gynnwys:
• Addysg
• Tai
• Gwasanaethau cymdeithasol
• Priffyrdd a thrafnidiaeth
• Rheoli gwastraff
• Gwasanaethau hamdden a diwylliannol
• Diogelu cwsmeriaid
• Iechyd yr amgylchedd
• Cynllunio
• Datblygu economaidd
• Gwasanaethau amgylcheddol
• Cynllunio at raid
Yn ôl i’r brig
|