Llywodraethu yng Nghymru > Cydweithio â Llywodraeth y Cynulliad
 |
Mae gan Lywodraeth y Cynulliad amrywiaeth eang o bwerau sy'n effeithio ar fyd llywodraeth leol a'r gwasanaethau mae'n eu cynnig. Mae'n gyfrifol am nifer o bolisïau'r maes, megis y gwasanaethau cymdeithasol, addysg, yr amgylchedd, cynllunio, trafnidiaeth a datblygu economaidd. Yn bwysicaf oll, mae'n gyfrifol am ddyrannu'r £14.5 biliwn sydd yng nghyllideb Cymru ac mae tua £8 biliwn o'r swm hwnnw i'w neilltuo ar gyfer gwasanaethau llywodraeth leol. Llywodraeth y Cynulliad sy'n pennu rhaglen wladol Cymru ac er ei bod yn pennu'r strategaethau a'r prif dargedau, mae'n rhoi i fyd llywodraeth leol ddigon o ryddid i weithio yn ôl y meini prawf gwladol. Mae'r gydnabyddiaeth honno o statws democrataidd byd llywodraeth leol yn cael ei hadlewyrchu ymhellach yn y ffaith nad yw Llywodraeth y Cynulliad yn corlannu'r rhan fwyaf o'r arian mae'n ei roi i'r cynghorau, gan roi rhwydd hynt iddyn nhw ei wario yn ôl anghenion a blaenoriaethau lleol.
Mae gan y cynghorau gysylltiadau uniongyrchol â Llywodraeth y Cynulliad trwy'r cynghorwyr a'r swyddogion ond WLGA sy'n ymwneud â llawer o'r cynrychioli a'r trafod telerau cenedlaethol. Mae'r gymdeithas drawsbleidiol honno'n cynrychioli pob cyngor, gan ethol uwch gynghorwyr o bob cwr o'r wlad yn llefarwyr sy'n cyfarfod yn rheolaidd â gweinidogion ac aelodau eraill o'r Cynulliad i ofalu bod sylwadau a phryderon byd llywodraeth leol yn cyfeirio penderfyniadau gwladol. At hynny, mae Cyngor y Bartneriaeth rhwng byd llywodraeth leol a Llywodraeth y Cynulliad yn hyrwyddo cydweithio ac yn helpu i lunio polisïau yn ôl gwybodaeth sy’n berthnasol.
‘Cymru'n Un’ yw enw rhaglen lywodraethu y cytunodd Plaid Llafur a Phlaid Cymru arni ar gyfer cyfnod presennol y Cynulliad. ‘Rhannu Cyfrifoldeb’ yw datganiad diweddaraf Llywodraeth y Cynulliad o'i pholisi, sy'n cadarnhau rôl ganolog byd llywodraeth leol o ran diwygio gwasanaethau cyhoeddus yn rhinwedd ei swyddogaethau parthed arwain y gymuned a rhoi gwasanaethau. Mae'r datganiad hwnnw'n amlinellu cyfraniad byd llywodraeth leol i 'Creu'r Cysylltiadau: Cyflawni ar draws Ffiniau' lle mae'r dinesydd yn ganolbwynt ynghylch llunio a chynnig gwasanaethau.
Yn ôl i’r brig
|
|