Llwodraeth Leol Canllaw Ymgeiswyr
 
WLGA logo
Hafan Llywodraethu Cynghorau Lleol Gwasanaethau Llywodraeth Leol Beth Mae Disgwyl Imi Ei Wneud?   English
Llywodraethu Corfforaethol
Rôl y Cynghorydd
Arwain y Gymuned
Gwarchod Ariannol
Y Cynghorau'n Gyflogwyr
Cydraddoldeb
Cynaladwyedd
Trosolwg a Chraffu
Perfformio a Gwella
Cynllun Rhagoriaeth Cymru
Rheoleiddio Allanol
Gwybodaeth Ychwanegol

Welsh Assembly Government Logo

Llywodraethu Cynghorau Lleol > Perfformio a Gwella

Perfformio a Gwella

© Vale of Glamorgan Council
Ar ôl i Lywodraeth y Cynulliad nodi mai awdurdod gorau Cymru oedd e ym maes goleuo’r strydoedd, enillodd Cyngor Bro Morgannwg y wobr gyntaf yn y maes hwnnw yng Nghystadleuaeth Flynyddol Rheoli Perfformiad 2005/06 Cymdeithas Rhagoriaeth Gwasanaethau Cyhoeddus y DG (APSE).

Mae'r cynghorau i gyd am i'w gwasanaethau fod o'r radd flaenaf yn ôl anghenion a dyheadau'r trigolion. Felly, maen nhw'n ceisio gwella'r gwasanaethau hynny drwy'r amser.

Er 1999, mae gofyn i bob cyngor 'sefydlu trefniadau i wella'r ffordd mae'n cyflawni ei swyddogaethau drwy'r amser, gan gadw mewn cof gyfuniad o arbedion, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd'. Mae cynghorau Cymru wedi derbyn y gofyn hwnnw o'r dechrau a chydweithio â Llywodraeth y Cynulliad i lunio Rhaglen Gwella Cymru a gafodd ei chyflwyno yn 2002.

Hanfod y rhaglen yw gwella yn ôl blaenoriaethau strategol lleol y cyngor a'i gymunedau, gan ystyried y peryglon perthnasol. Bydd pob cyngor yn asesu pa mor addas yw e i'w ddiben ynghyd â hanes ei wasanaethau a’r gobeithion ar eu cyfer. Trwy'r hunanasesu hwnnw, gall y cyngor nodi tangyflawni ac unrhyw rwystrau sy’n llesteirio gwelliannau ac arloesi.

Mae'r cynghorau'n mynd ar ôl y meysydd pwysicaf i'w gwella trwy gynlluniau gweithredu ac mae rhaid iddyn nhw roi adroddiad cyhoeddus am hynt a helynt y cynlluniau hynny – ynghyd â'r hyn maen nhw'n bwriadu ei wneud - mewn cynllun gwella bob blwyddyn. Swyddfa Archwilio Cymru a chyrff rheoleiddio eraill sy'n gofalu bod y cynghorau'n atebol ac yn cadw llygad ar y ffordd maen nhw'n rheoli peryglon -trwy drefnau archwilio ac arolygu.

Mae cynghorau Cymru wedi cyflawni cryn dipyn ers cyflwyno Rhaglen Gwella Cymru. Mae'r cynghorwyr wedi meithrin medrau newydd ac maen nhw’n fwy hyderus wrth gydweithio â'r swyddogion a'u holi'n adeiladol i ofalu bod y cynghorau'n gweithio yn ôl y safonau uchel ac yn gwella eto fyth.

 

Yn ôl i’r brig

Llwytho ffeil i lawr.
Argraffwch dim ond os gwir angen hynny.
Modd testun arferol Modd testun gwelededd amlwg

 

Gwaith dylunio a pharatoi CeriLovett and Blue Apple ar gyfer WLGA 2008