Llwodraeth Leol Canllaw Ymgeiswyr
 
WLGA logo
Hafan Llywodraethu Cynghorau Lleol Gwasanaethau Llywodraeth Leol Beth Mae Disgwyl Imi Ei Wneud?   English
Llywodraethu Corfforaethol
Rôl y Cynghorydd
Arwain y Gymuned
Gwarchod Ariannol
Y Cynghorau'n Gyflogwyr
Cydraddoldeb
Cynaladwyedd
Trosolwg a Chraffu
Perfformio a Gwella
Cynllun Rhagoriaeth Cymru
Rheoleiddio Allanol
Gwybodaeth Ychwanegol

Welsh Assembly Government Logo

Llywodraethu Cynghorau Lleol > Trosolwg a Chraffu

Trosolwg a Chraffu

© Brecon-Beacons-National-Park 2007

Mae gofyn i bob cyngor sefydlu o leiaf 1 pwyllgor trosolwg a chraffu. Mae mwy nag un gyda'r rhan fwyaf, er eu bod yn eu galw'n baneli neu'n ffora yn aml. Gan mai dim ond nifer bychan o'r cynghorwyr newydd yn 2008 fydd yn aelodau o'r cabinet/bwrdd gweithredol, bydd gofyn i'r rhan fwyaf gyflawni rôl sylweddol ynghylch trosolwg a chraffu. Mae'r pwyllgorau trosolwg a chraffu yn bwysig ynglŷn â gofalu bod y cynghorwyr gweithredol yn atebol am eu penderfyniadau a'u polisïau a safon gwasanaethau'r cyngor. Gallan nhw helpu hefyd i lunio ac adolygu polisïau yn ogystal â bwrw golwg dros faterion sy'n achosi pryder yn y gymuned a gweithgareddau cyrff cyhoeddus eraill.

Dyw pwyllgorau trosolwg a chraffu ddim yn ymwneud â phenderfynu ond maen nhw'n cael rhoi argymhellion i'r cabinet neu'r cyngor cyflawn. Ar ben hynny, gallan nhw fynnu bod cynghorwyr gweithredol ac uwch swyddogion yn ymddangos ger eu bron i ateb eu cwestiynau. Wrth fwrw golwg ar benderfyniadau, polisïau a gwaith, caiff y pwyllgorau gasglu tystiolaeth o amryw ffynonellau megis y cyhoedd, pobl sy'n defnyddio’r gwasanaethau, arbenigwyr annibynnol a chynrychiolwyr cyrff cyhoeddus eraill i gyfeirio eu canfyddiadau. Mewn rhai adolygiadau neu ymchwiliadau, gallai'r pwyllgor fod wrth ei waith dros rai misoedd.

 

Yn O^l i'r Brig

Llwytho ffeil i lawr.
Argraffwch dim ond os gwir angen hynny.
Modd testun arferol Modd testun gwelededd amlwg

 

Gwaith dylunio a pharatoi CeriLovett and Blue Apple ar gyfer WLGA 2008