Llwodraeth Leol Canllaw Ymgeiswyr
 
WLGA logo
Hafan Llywodraethu Cynghorau Lleol Gwasanaethau Llywodraeth Leol Beth Mae Disgwyl Imi Ei Wneud?   English
Llywodraethu Corfforaethol
Rôl y Cynghorydd
Arwain y Gymuned
Gwarchod Ariannol
Y Cynghorau'n Gyflogwyr
Cydraddoldeb
Cynaladwyedd
Trosolwg a Chraffu
Perfformio a Gwella
Cynllun Rhagoriaeth Cymru
Rheoleiddio Allanol
Gwybodaeth Ychwanegol

Welsh Assembly Government Logo

Llywodraethu Cynghorau Lleol > Gwarchod Ariannol

Gwarchod Ariannol

© Wrexham-CBC

Gwariodd byd llywodraeth leol ryw £8 biliwn o arian cyhoeddus Cymru yn 2007-08 o'i gymharu â gwariant y GIG (£4.9 biliwn) a chyfanswm y gwariant cyhoeddus yng Nghymru (£16 biliwn)1. Mae'r rhan fwyaf o arian llywodraeth leol yn dod trwy grant y Cynulliad ac mae treth y cyngor, y trethi busnes lleol, y grantiau penodol eraill a'r enillion, megis taliadau meysydd parcio a ffïoedd canolfannau hamdden, yn ychwanegu ato.

Ar wasanaethau addysg, gofal cymdeithasol a thai mae’r rhan helaethaf o’r gwariant. Mae grant Llywodraeth y Cynulliad wedi’i chorlannu neu’i gwystlo. Golyga hynny ei bod hi’n hyblyg a bod tipyn o ryddid i’r cyngor benderfynu sut mae’n gwario’r arian ar gyfer diwallu anghenion a blaenoriaethau lleol ac ym mha wasanaethau bydd e’n buddsoddi.

Bob hydref, bydd y cyngor yn bwrw golwg ar ei gyllideb i'w phennu ar gyfer y flwyddyn nesaf a phenderfynu faint o dreth sydd i'w chodi ar y trigolion. Bydd y Cynulliad yn pennu faint o arian sydd i'w roi i bob cyngor yn ôl ei Asesiad o Wariant Safonol. Y cyngor llawn sy'n pennu'r gyllideb flynyddol a lefel treth y cyngor ar ôl clywed barn y cabinet/bwrdd gweithredol.

Ar ben hynny, bydd pob cyngor yn paratoi cynllun ariannol y tymor canol ar gyfer o leiaf dair blynedd. Bydd y dyraniadau tair blynedd mae Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu eu cyflwyno o gymorth yn hynny o beth.

Mae treth y cyngor yn bwnc llosg; ond dim ond 4.2% o drethi'r DG a dim ond 20% o wariant cynghorau Cymru yw hi ar gyfartaledd. Er mai treth y cyngor yw'r enw, rydyn ni'n anghofio yn aml fod archebiant yr heddlu (15%) yn rhan sylweddol ohoni yn ogystal ag archebiannau'r cynghorau tref a bro mewn rhai ardaloedd (2%). Mae treth y cyngor yn talu am blismyn a gweithwyr tân yn ogystal ag amryw wasanaethau'r cyngor.

Un o'r prif resymau pam mae treth y cyngor yn bwnc llosg yw'r 'effaith gyfrannol'. Dim ond trwy ei dreth y caiff cyngor godi arian a dim ond 20% o'i wariant, ar gyfartaledd, a ddaw trwy'r dull hwnnw. Felly, bydd y cynnydd yn anghymesur am y byddai rhaid codi cyfradd y dreth o 5% pe hoffai'r cyngor ychwanegu 1% at ei wariant. Er enghraifft: £100 miliwn yw cyllideb y cyngor ac mae £20 miliwn o'r swm hwnnw'n dod trwy ei dreth. Mae angen codi £1 miliwn ychwanegol a dim ond trwy dreth y cyngor mae modd gwneud hynny. Er mai dim ond 1% o gyllideb y cyngor yw £1 miliwn, mae’n 5% o'r incwm sy'n dod trwy dreth y cyngor ac, felly, byddai'r biliau'n codi o 5%.

Un o ddyletswyddau'r cynghorwyr yw rheoli arian ac adnoddau'r cyngor i ofalu bod pawb yn eu defnyddio yn effeithlon ac yn ddarbodus. Uwch swyddog o'r enw swyddog Adran 151 sy'n gofalu bod y cyngor yn gweithio'n briodol o ran ei faterion ariannol. Mae rhaid i'r cyngor drin a thrafod arian yn ôl ei reoliadau ariannol ac mae gofyn statudol iddo lunio strategaeth rheoli asedion sy'n dangos sut bydd yn defnyddio - ac yn cynnal - tiroedd, adeiladau, cerbydau ac asedion eraill i wneud y gorau o'r incwm ac osgoi gwastraff.

1. Mae cyfanswm y gwariant cyhoeddus yn cynnwys y gwariant cyfredol (cyllid) ar adnoddau i'w defnyddio yn y flwyddyn ariannol gyfredol a'r gwariant cyfalaf ar asedion i'w defnyddio dros gyfnod maith. Mae'r cyfanswm o £16 biliwn yn cynnwys cyllideb Llywodraeth y Cynulliad – y £14.4 biliwn mae Trysorlys y DG yn eu rhoi iddi – a'r £1.6 biliwn o gyllid sy'n dod trwy dreth y cynghorau a'r trethi busnes.

 

Yn ôl i’r brig

Llwytho ffeil i lawr.
Argraffwch dim ond os gwir angen hynny.
Modd testun arferol Modd testun gwelededd amlwg

 

Gwaith dylunio a pharatoi CeriLovett and Blue Apple ar gyfer WLGA 2008