Llywodraethu Cynghorau Lleol > Cydraddoldeb
 |
Mae costau economaidd a chymdeithasol anghydraddoldeb yn rhai sylweddol. Yn ôl ymchwil am y tueddiadau cyfredol, bydd cyflogau dynion a merched yn gyfartal erbyn 2085, bydd swyddi ar gael i bob tras leiafrifol erbyn 2105 ac, yn ôl pob tebyg, fydd yr anabl byth yn cael chwarae teg ym maes cyflogaeth. Gall ystyriaethau rhyw, oedran, tras, anabledd, crefydd/cred a thueddfryd rhywiol achosi anffafrio ac anfantais. Mae dyletswydd gyfreithiol a moesol ar y cyngor i hyrwyddo cyfleoedd teg, a dylai fod yn effro i anghenion amryfal y bobl leol o ran gwasanaethau. Mae'r cyngor yn gyfrifol am hyrwyddo cydraddoldeb yn rhinwedd ei swyddogaethau yn sefydliad sy'n rhoi gwasanaethau, yn gorff democrataidd sy'n cynrychioli buddiannau'r bobl i gyd, yn gyflogwr pwysig ac yn arweinydd y gymuned. Mae Fframwaith WLGA ar gyfer Gwella Materion Cydraddoldeb yn helpu'r cynghorau i gymathu cydraddoldeb ym mhrif ffrwd gwaith cynllunio busnes, rheoli peryglon, asesu'r hyn sydd wedi'i gyflawni a threfnu newidiadau.
 |
Yn ôl i’r brig
|
|