| Llywodraethu Cynghorau Lleol > Y Cynghorau'n Gyflogwyr
Mae dros 160,000 o weithwyr ym myd llywodraeth leol Cymru – 1 rhan o 8 o weithlu'r wlad i gyd. Mae ar y cynghorau gyfrifoldebau cyfreithiol cymhleth ynghylch rheoli eu gweithwyr a hyrwyddo eu lles a'u diogelwch yn ogystal â dyletswydd gyffredinol i ofalu amdanyn nhw. Mae disgwyl i bob cyngor lunio strategaethau denu, cadw, hyfforddi a datblygu staff a hyrwyddo eu hiechyd a'u lles yn ogystal â chynnal perthynas agored ac adeiladol â'r undebau llafur.
Ymhlith prif anawsterau'r cynghorau ym maes cyflogaeth mae:- denu digon o staff newydd i wasanaethau sydd o dan bwysau, megis gofal cymdeithasol; cadw gweithwyr y proffesiynau mewn meysydd arbenigol lle mae llawer o fynd a dod rhwng sectorau; gwerthuso pob swydd i ofalu bod cyflogau'n gyfartal; cyflwyno statws unffurf ar gyfer staff coler wen a llafurwyr fel ei gilydd - fel y bydd yr un amodau a thelerau'n berthnasol iddyn nhw i gyd - a meithrin medrau rheoli cyffredinol ymhlith eu rheolwyr fel y gallan nhw ateb gofynion cyfoes maes llywodraeth leol.
Gan fod disgwyl i gynghorau Cymru roi gwasanaethau cyhoeddus cyfoes o'r radd flaenaf, mae'n bwysig rheoli'n briodol a gwerthfawrogi'r rhai sy'n gyfrifol am gynnal y gwasanaethau hynny. Y gweithwyr yw wyneb cyhoeddus byd llywodraeth leol a dylai'r cynghorau ofalu eu bod yn cael cyflogau priodol a theg, yn gweithio mewn lleoedd diogel ac yn cael cyfleoedd i ddatblygu fel y gallan nhw roi'r gwasanaethau mae'r cyhoedd yn eu disgwyl.
Yn ôl i’r brig
|