Llywodraethu Cynghorau Lleol > Rôl y Cynghorydd
|
Mae pob cynghorydd yn hyrwyddo ei fro ac yn trafod achosion unigol ei thrigolion pan fôn nhw'n gofyn am gyngor neu gymorth. Bydd y rôl yn amrywio yn ôl trefniadau llywodraethu'r cyngor. Mae cyfansoddiad pob cyngor wedi'i seilio ar y dulliau enghreifftiol a gyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad. Mae'r cyfansoddiad yn pennu'r trefniadau a'r gweithdrefnau penderfynu, cylch gorchwyl pob pwyllgor mewnol, rolau a chyfrifoldebau swyddi unigol, y rheolau sefydlog ar gyfer cyfarfodydd, y codau ymddwyn a'r rheoliadau ariannol. |
Mae pob cynghorydd yn aelod o'r cyngor cyflawn sy'n pennu polisïau a chyllidebau cyffredinol y cyngor. Mae rhan fechan o'r cynghorwyr yn aelodau o'r cabinet neu'r bwrdd gweithredol ac mae pob aelod arall yn ymwneud â bwrw golwg manwl ar waith y cyngor, sefydliadau eraill a chyrff allanol trosolwg a chraffu. Mae pwyllgorau rheoleiddio ar gyfer trin a thrafod materion cynllunio a thrwyddedu. Mae cynghorwyr yn cael eu penodi i gyrff allanol lleol megis cyrff llywodraethu'r ysgolion a partneriaethau'r fro hefyd, naill ai'n gynrychiolwyr y cyngor neu'n ymddiriedolwyr neu gyfarwyddwyr yn eu rhinwedd eu hunain.
Rhaid i bob cyngor gynnal pwyllgor safonau. Mae'r pwyllgor yn gyfrifol am fabwysiadu côd ymddwyn lleol, cadw llygad ar ymddygiad a dyfarnu mewn achosion o gamymddwyn. Rhaid i bob cynghorydd lofnodi'r côd ymddwyn i ofalu ei fod yn cynnal y safonau uchaf. Yn wir, mae'r rheolau ar gyfer ymddygiad cynghorwyr yn llymach o lawer na'r rhai ar gyfer aelodau'r Cynulliad a San Steffan! Mae modd cyflwyno cwynion am gamymddwyn trwy lythyr i Ombwdsmon Cymru, sydd â’r hawl i gymryd amryw gamau, gan gynnwys rhoi achosion gerbron Panel Dyfarnu Cymru.
Yn ôl i’r brig
|
|