Llwodraeth Leol Canllaw Ymgeiswyr
 
WLGA logo
Hafan Llywodraethu Cynghorau Lleol Gwasanaethau Llywodraeth Leol Beth Mae Disgwyl Imi Ei Wneud?   English
Llywodraethu Corfforaethol
Rôl y Cynghorydd
Arwain y Gymuned
Gwarchod Ariannol
Y Cynghorau'n Gyflogwyr
Cydraddoldeb
Cynaladwyedd
Trosolwg a Chraffu
Perfformio a Gwella
Cynllun Rhagoriaeth Cymru
Rheoleiddio Allanol
Gwybodaeth Ychwanegol

Welsh Assembly Government Logo

Llywodraethu Cynghorau Lleol > Arwain y Gymuned

Arwain y Gymuned

© Cardifff County Council 07

Mae hawl unigryw gyda'r cyngor i arwain ei fro. Ac yntau'n gorff atebol ddemocrataidd ac iddo bwerau, swyddogaethau a dylanwad eang, mae'n hanfodol i dynged y fro mae'n ei gwasanaethu a bywydau'r trigolion.

Ystyr arwain y gymuned yw diffinio delfryd ar ei chyfer a gweithio ar y cyd â nifer o bartneriaid yn y sectorau gwladol, gwirfoddol, cymunedol a phreifat i'w wireddu. Mae modd gwneud hynny trwy gynnal partneriaethau, cytuno ar strategaethau, cydweithio a rhannu adnoddau.

Mae gan bob cyngor bwerau statudol i hybu lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ei fro – trwy'r strategaeth gymunedol, fel arfer. Mae gofyn iddo lunio strategaeth gymunedol a ddylai ddod â phob partner at ei gilydd a rhoi delfryd a chyfeiriad y tymor hir i'r fro i gyd. Yn ogystal â'r brif strategaeth honno, bydd y cyngor yn paratoi nifer o strategaethau pwysig eraill megis cynllun datblygu lleol, strategaeth ar gyfer plant a phobl ifainc a strategaeth iechyd a lles.

Gall y syniad o arwain y gymuned olygu nifer o bethau i'r cynghorydd unigol, gan gynnwys hyrwyddo buddiannau ei gylch etholiadol, dylanwadu ynghylch pryderon pobl leol, darbwyllo partneriaid i weithio yn ôl y delfryd safonol, cymodi ymhlith mudiadau bro, helpu'r mudiadau hynny i ddatrys problemau lleol a phwyso a mesur rhinweddau pob cais am adnoddau er mwyn dod i benderfyniadau a fydd o les i holl ardal yr awdurdod.

 

Yn ôl i’r brig

Llwytho ffeil i lawr.
Argraffwch dim ond os gwir angen hynny.
Modd testun arferol Modd testun gwelededd amlwg

 

 
Gwaith dylunio a pharatoi CeriLovett and Blue Apple ar gyfer WLGA 2008